Conwy: Pryder am nodwyddau y tu allan i ganolfan cyffuriau arfaethedig
Mae rhai trigolion yn Llandudno wedi ysgrifennu at y cyngor sir yn pryderu y bydd nodwyddau yn cael eu gadael y tu allan i ganolfan cyffuriau arfaethedig.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno cais cynllunio i Gyngor Gonwy ar gyfer Canolfan Roslin ar Ffordd Nant y Gamar yng Nghraig y Don.
Mae'r bwrdd iechyd eisiau trawsnewid yr hen adeilad oedd yn gartref i’w gwasanaethau bydwreigiaeth yn y dref yn ganolfan cyffuriau ac alcohol.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys clinig camddefnyddio sylweddau gydag ystafelloedd cwnsela ar lawr gwaelod yr adeilad a swyddfeydd ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol ar y lloriau eraill.
Ond mae rhai trigolion yn poeni y gallai'r ganolfan newydd arwain at nodwyddau yn cael eu gadael o amgylch y safle, diffyg diogelwch, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae’r ganolfan arfaethedig dafliad carreg i ffwrdd o Ysgol y Gogarth, ysgol anghenion arbennig.
Mae’r llythyrau o wrthwynebiad wedi’u cyflwyno i adran gynllunio Conwy fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae unrhyw benderfyniad terfynol yn debygol o fynd gerbron y pwyllgor cynllunio.
Fe ysgrifennodd y trigolion Geoffrey a Mary Stone at Gyngor Conwy yn poeni am nodwyddau oedd yn cael eu taflu.
“Mae’n anodd rhagweld beth fydd ymddygiad camddefnyddwyr sylweddau, p’un a ydynt yn ceisio triniaeth ai peidio,” medden nhw.
“Mae problem bosibl o nodwyddau a deunydd cyffuriau eraill yn cael eu gadael y tu allan i’r ysgol.
“Mae yna bosibilrwydd hefyd i bobl sy’n camddefnyddio sylweddau ddefnyddio’r tiroedd gyda’r nos gan eu bod yn teimlo eu bod mewn ‘lle diogel’ – rhywbeth rydyn ni’n cael ei ddeall sydd wedi digwydd mewn clinigau eraill.”
‘Cwbl amhriodol’
Ysgrifennodd Catherine Peterson o Ffordd Nant y Gamar at y cyngor sir hefyd yn trafod ei hofnau.
“Mae hwn yn lle hynod amhriodol wrth ymyl cartref plant, ysgol anghenion arbennig, a llety preswyl,” ysgrifennodd.
“Rydw i’n sicr y byddai hyn yn fwy addas ar gyfer safle ysbyty lle gallai pobl gael eu monitro gyda diogelwch ychwanegol yn ei le i warchod yr ardaloedd cyfagos.
“Rwy’n gwrthwynebu’r cais hwn yn gryf.”
Anfonodd Christine Rowlands a’i gŵr David hefyd lythyr at y cyngor.
“Mae’r eiddo hwn gerllaw adeilad sy’n cael ei drawsnewid yn gartref preswyl dosbarth dau a gyferbyn ag Ysgol Gogarth, sy’n ysgol anghenion arbennig,” ysgrifennodd.
“Rydym yn teimlo y byddai’r clinig a’r defnyddwyr yn gwbl amhriodol yn yr ardal hon oherwydd bod y sefydliadau eraill hyn mor agos.”
Ychwanegodd: “Mae hefyd yn peri pryder a oes cyfleusterau parcio ar gael yn y clinig.
“Mae llawer o dagfeydd traffig ar Heol Nant y Gamar yn ystod y cyfnodau pan mae plant yn cael eu gollwng a’u casglu o Ysgol Gogarth.
“Does dim digon o leoedd parcio ychwanegol ar gael ar Ffordd Nant y Gamar na Ffordd Roumania.”
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael cais am sylw.