Disgyblion ar draws Cymru i dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch
Bydd miloedd o ddisgyblion ar draws Cymru yn derbyn eu canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol a BTec fore Iau.
Eleni oedd y flwyddyn gyntaf i Gymru ddychwelyd i lefelau graddio arholiadau cyn pandemig Covid-19.
Mae Cymwysterau Cymru yn dweud y bydd hyn yn golygu bydd graddau yn is yn gyffredinol, ac wedi dweud ei fod yn bwysig bod lefelau'n dychwelyd i fel yr oeddynt cyn y pandemig.
Mae hyn oherwydd bod angen bod yn gyson yn y canlyniadau, medden nhw.
Roedd canlyniadau arholiadau Safon Uwch Cymru wedi syrthio “yn ôl y bwriad” wedi’r pandemig y llynedd.
Cafodd 13.5% A*, cwymp o 17.1% yn 2022 ond yn uwch na’r 8.9% yn 2019.
Ar draws y DU cafodd 9.9% A*, cwymp o 14.6% yn 2022 ond yn uwch na’r 7.7% yn 2019.
2019 oedd y flwyddyn olaf cyn y pandemig, a 2022 y flwyddyn gyntaf i ddisgyblion sefyll arholiadau wrth i Gymru ddod allan o’r pandemig.