'Misoedd o oedi' cyn agor uned iechyd meddwl i famau o'r gogledd
'Misoedd o oedi' cyn agor uned iechyd meddwl i famau o'r gogledd
Mae cynllun i greu uned fyddai’n cefnogi mamau o’r gogledd sydd â phroblemau iechyd meddwl a’u babanod yn wynebu oedi oherwydd cynnydd mewn costau.
Roedd disgwyl i uned ‘Seren Lodge’ yn Ysbyty Iarlles Caer agor yn yr Hydref ond bellach bydd rhaid aros tan o leiaf yr haf y flwyddyn nesaf yn ôl yr Ymddiriedolaeth Iechyd sydd yn gyfrifol am y gwaith.
Nawr mae galwadau i sefydlu uned arbenigol o'r fath yng Ngogledd Cymru.
Roedd pryder eisoes bod darparu’r gofal arbenigol dros y ffin yn Lloegr yn annheg i famau o’r gogledd fydde’n gorfod teithio yno.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae nhw’n “ymwybodol” o’r oedi ac yn “cydweithio er mwyn asesu sut mae cyflwyno’r ddarpariaeth”.
O dan y cynllun presennol bydd wyth o welyau yn yr uned newydd fydd yn galluogi i famau sy’n wynebu heriau iechyd meddwl aros gyda’u babanod a’u teuluoedd yn hytrach na chael eu gwahanu.
Yn ôl Ymddiriedolaeth Iechyd Sir Gaer a Chilgwri, y disgwyl yw y bydd 25% o gleifion yr uned yn dod o Ogledd Cymru.
Ond oherwydd ‘pwysau chwyddiant o fewn y sector adeiladu’ does dim disgwyl i’r uned newydd agor tan haf y flwyddyn nesaf yn hytrach nag eleni fel y disgwyl.
'Ddim yn dderbyniol'
Yn ôl Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian, mae’r oedi yn gyfle i ‘ail ystyried’ y penderfyniad i beidio agor uned yng ngogledd Cymru.
“Dydi’r oedi diweddara ‘ma ddim yn dderbyniol”, meddai Ms Gwenllian.
“Mae ‘na famau yn y gogledd sydd ddim yn cael y ddarpariaeth a’r gwasanaeth mae nhw’n haeddu ei gael a dwi yn meddwl fod yr oedi yn rhoi cyfle i ail ystyried yr holl gynllun”.
Dywedodd ei bod am weld cynllun i greu “uned yn y gogledd” fyddai’n galluogi i famau gael darpariaeth yn “nes at adref” ac “yn y Gymraeg sydd yn holl bwysig”.
Ychwanegodd ei bod hi wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Iechyd Mark Drakeford yn gofyn am gyfarfod i drafod y sefyllfa.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae nhw’n “ymwybodol o’r oedi yn y broses caffael a thendro”.
“Rydym yn disgwyl i’r uned agor ganol 2025 ac rydym yn cydweithio er mwyn asesu sut mae cyflwyno’r ddarpariaeth”.
Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Iechyd Sir Gaer a Chilgwri bod pwysau “chwyddiant y sector adeiladu wedi arwain at yr oedi” a’u bod yn gweithio i sicrhau defnydd gorau o arian cyhoeddus.
“Rydym yn gwneud hynny er mwyn sicrhau'r gofal gorau i famau sy’n wynebu trallod iechyd meddwl difrifol, eu babanod a theuluoedd,” meddai.