'Un o'r arlunwyr pwysicaf': Teyrngedau i Margaret Jones, arlunydd chwedlau gwerin Cymru
Mae'r arlunydd Margaret Jones, a oedd yn adnabyddus am ei darluniau am chwedlau gwerin Cymru wedi marw yn 105 oed.
Darluniodd y ddau fap eiconig o Chwedlau Gwerin Cymru a'r Mabinogi sydd wedi cael eu harddangos mewn sawl ystafell ddosbarth a chartref yng Nghymru ar hyd y degawdau.
Yn wreiddiol o Gaint, symuodd gyda'i gŵr i India yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyn symud i ardal Aberystwyth yn ddiweddarach.
Dechreuodd ei gyrfa ym myd celf pan roedd tua 65 oed.
Fe wnaeth Dr Robin Gwyndaf ysgrifennu'r llyfr Chwedlau Gwerin Cymru yn 1989, gyda Margaret Jones yn darlunio map ar gyfer y gyfrol.
"Roedden ni'n gwybod am ei dawn hi ac oedden ni yn awyddus iawn i gael hi i neud map o chwedlau gwerin Cymru ac yn 1988, pleser oedd mynd ati i Gapel Bangor fel ffrind a gwneud y map 'ma o'r chwedlau," meddai wrth wefan Newyddion S4C.
"Mae hi wedi bod yn fraint, oedd hi mor garedig, oedd hi mor barod i helpu, a dyna'r peth pwysicaf i ddweud am Margaret, oedd hi'n berson caredig, dawnus, eithriadol o alluog.
"Mae hi'n un o'n harlunwyr pwysicaf ni yng Nghymru ac mae'n chwith ar ei hôl hi."
Wrth siarad ar raglen Beti A'i Phobl ar Radio Cymru yn 2022, dywedodd ei hwyres yr arlunydd Seren Morgan Jones ei bod hi "wastad yn greadigol."
"Mae'n hoffi'r straeon, 'na beth nath ei denu hi at lunie'r Mabinogi, ac i fod yn illustrator. Mae rili yn sgil arbennig, i neud llunie i lyfre fel 'na.
"Wrth edrych o gwmpas, ma' nhw lan yna gyda'r llunie illustrations gore yn y byd, a ma' nhw dal gyda shwt gymaint o bŵer - Y Mabinogi neu map o Gymru - ma' nhw'n hollol amazing - gwaith hynod".
'Hanes byw'
Ychwanegodd Robin Gwyndaf: "Fel dylunydd neu arlunydd i gyfrolau, mae hi mewn traddodiad cyfoethog. 'Dan ni wedi bod yn ffodus iawn yng Nghymru ond fyswn i'n ei hystyried hi fel un o'r pwysicaf un.
"Mae fel petai'r cymeriadau yn dod allan o'i darluniau hi, yn ymuno hefo chi...oedd genna hi ryw ffordd o awgrymu y byd gor-uwch naturiol yn naturiol. Dim ond hi sydd wedi gwneud hynny, mae ei lluniau hi yn unigryw.
"Cofio a diolch am y fraint fydda i. Dwi'n ei hystyried hi fel un o'r personau fwyaf caredig, parod ei chymwynas â'r ddawn arbennig i droi yr hyn sy'n hanes mewn llyfr yn rywbeth byw, yn hanes byw.
"Mi fydd ei darluniau hi o'r cymeriadau yma, maen nhw'n perthyn i heddiw a mae hi wedi gallu cadw'r peth byw yna. 'Dan ni'n diolch amdani hi."