Yr unig fwyty dwy seren Michelin yng Nghymru yn derbyn sgor hylendid damniol

10/01/2026
Ynyshir

Mae perchnogion bwyty uchel ei barch, dwy seren Michelin yn Eglwys Fach ger Machynlleth wedi dweud eu bod yn "cymryd diogelwch a hylendid bwyd wir o ddifrif, " ar ôl derbyn sgôr hylendid bwyd damniol yn yr arolygiad diweddaraf.

Ynyshir oedd y bwyty cyntaf yng Nghymru i ennill dwy seren Michelin yn 2022 ar ôl derbyn ei seren gyntaf yn 2014 - ac mae'n parhau i fod yr unig fwyty Michelin dwy seren yng Nghymru.

Ond cafodd y bwyty un allan o bump ar gyfer eu sgôr hylendid bwyd yn dilyn archwiliad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar 5 Tachwedd. Dyna'r ail isaf ar y rhestr.  

Mewn ymateb, dywedodd Bwyty Ynyshir wrth Newyddion S4C eu bod yn "cymryd y canlyniad o ddifrif ac eisoes wedi mynd i'r afael â'r pwyntiau hyn yn llawn." 

"Yn dilyn archwiliad arferol diweddar gan yr awdurdod lleol, nodwyd nifer o gamau gweinyddol a gweithdrefnol i'w gwella," meddai'r datganiad.

"Ar hyn o bryd rydym yn gweithio'n agos ac yn cydweithredu gydag Iechyd yr Amgylchedd ac wedi gofyn am ail-archwiliad cynnar yn unol â chanllawiau'r cyngor.

"Mae Ynyshir yn gweithredu gyda thechnegau a phrosesau coginio sydd wedi'u dylanwadu'n fawr gan gynhwysion a methodolegau Japaneaidd. 

"Mae'r dull hwn yn cynnwys arferion paratoi a thrin arbenigol sy'n wahanol i weithrediadau cegin gonfensiynol. 

"Rydym yn gweithredu ar y lefel broffesiynol uchaf ac yn falch o weithio gyda rhai o'r cyflenwyr a'r cynhwysion gorau o bob cwr o'r byd.

"Rydym yn parhau i fod yn gwbl hyderus yn ein prosesau, ein tîm, a diogelwch ein gweithrediad.

"Fel bob amser, ein ffocws yw darparu profiad bwyta eithriadol a diogel i bob gwestai sy'n ymweld â ni."

'Bwyty Gorau Prydain'

Cafodd Bwyty Ynyshir sgor hylendid 5, sef y gorau yn 2024. 

Mae'r arolwg diweddaraf ym mis Tachwedd 2025 yn nodi fod angen "gwelliant sylweddol" ym maes rheoli diogelwch bwyd.  

O dan arweiniad y prif gogydd Gareth Ward, enillodd y bwyty deitl Bwyty Gorau'r Deyrnas Unedig ddwy flynedd yn olynol yn 2022 a 2023, ac mae wedi'i ddisgrifio fel y bwyty gorau ym Mhrydain gan y cogydd byd-enwog James Martin. 

Mae Ynyshir hefyd wedi ymddangos ar restr bwytai gorau'r byd mewn cylchgrawn sy'n hyrwyddo teithiau moethus. Ymddangosodd yn yr Elite Traveler yn 2023 ar ôl i ddarllenwyr y cylchgrawn bleidleisio dros eu llefydd gorau i fwyta.  

Mae'r bwyty yn nodi ar eu gwefan fod prisiau eu profiad ciniawa yn dechrau ar £468 y person, gyda 12.5% o dâl gwasanaeth yn ychwanegol at hynny, os yw'r cwsmer yn dymuno cyfrannu hynny.  

 

 


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.