Dim modd i'r Adar Gleision arwyddo chwaraewyr newydd am y tro
Does dim modd i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd arwyddo chwaraewyr newydd am y tro hyd nes iddyn nhw gyflwyno eu cyfrifon ariannol.
Cynghrair Bêl-droed Lloegr, yr EFL sydd wedi gosod yr embargo am nad yw cyfrifon blynyddol yr Adar Gleision wedi eu cyflwyno eto.
31 Rhagfyr oedd y dyddiad olaf i'w cyflwyno, yn ôl y rheolau.
Cododd y mater yn ystod ffenestr drosglwyddo mis Ionawr.
Yn ôl Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, "oedi byr gweinyddol" sydd i gyfrif am y datblygiadau diweddaraf, ac mae'n nhw'n disgwyl i'r embargo gael ei godi yn fuan.
"Nid oes unrhyw bryderon ariannol," meddai'r datganiad gan y clwb.
"Bydd y gwaith papur angenrheidiol wedi ei gyflwyno yn y dyddiau nesaaf, a bydd y mater wedi ei ddatrys, gydag unrhyw embargo wedi ei godi."
Yn y datganiad, mae'r Adar Gleision yn pwysleisio na fydd y mater yn cael effaith ar eu strategaeth recriwtio fis Ionawr.
Collodd Caerdydd eu lle yn y Bencampwriaeth y llynedd, ac maen nhw bellach yn chwarae yn Adran Un.