Team GB eisiau sefydlu tîm pêl-droed dynion yng Ngemau Olympaidd 2028
Mae Team GB yn gobeithio cael tîm pêl-droed dynion yng Ngemau Olympaidd Los Angeles yn 2028.
Bwriad Cymdeithas Olympaidd Prydain yw uno Cymdeithasau pêl-droed Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i sefydlu carfan yn enw Team GB.
Dyma fyddai'r tro cyntaf i Team GB chwarae yn nhwrnamaint dynion y Gemau Olympaidd ers Llundain 2012.
Mae carfan merched Team GB yn gymwys i gymhwyso, ond doedden nhw ddim yn gymwys ar gyfer Paris 2024.
Roedd gan Prydain Fawr dîm y dynion ym mhob un o'r Gemau rhwng 1948 a 1972
Ond yna cafwyd gwrthwynebiad gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a oedd yn teimlo y gallai eu hannibyniaeth yng nghystadlaethau FIFA ac UEFA gael ei beryglu pe baent yn cystadlu fel un tîm yn y Gemau Olympaidd.
'Gwych'
Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Olympaidd Prydain, Andy Anson, y byddai cael tîm dynion Prydain Fawr yn y Gemau yn Los Angeles ymhen pedair blynedd yn “wych ar gyfer pêl-droed”.
“Mae'n rhywbeth y byddwn i wrth fy modd yn gweld yn digwydd,” meddai Mr Anson.
“Hoffwn weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Lloegr, gyda Chymdeithas yr Alban, gyda Chymdeithas Cymru a Chymdeithas Gogledd Iwerddon, os gallwn wneud iddo ddigwydd. Byddai'n wych ar gyfer pêl-droed, i bêl-droed ieuenctid a phêl-droed yn gyffredinol.
“Mae gweld tîm y merched yn cystadlu yn wych a byddwn wrth fy modd yn gweld tîm y dynion yn cystadlu yn yr un ffordd.”
Roedd carfan dynion Team GB - a oedd yn cynnwys pum chwaraewr o Gymru a 13 o chwaraewyr o Loegr - wedi cystadlu yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012, ond roedd yn cael ei ystyried fel digwyddiad un tro yn unig.
Gall Cymdeithas Olympaidd Prydain hefyd wynebu gwrthwynebiad gan glybiau nad ydynt yn awyddus i ryddhau eu chwaraewyr yn ystod cyfnod prysur yr haf.
Bydd Gemau Olympaidd LA 2028 yn cael eu cynnal rhwng 14 a 30 Gorffennaf, ychydig ddyddiau ar ôl rownd derfynol EURO 2028 yn Wembley. Mae'r Gemau hefyd ychydig wythnosau cyn dechrau tymor newydd y gynghrair.