Newyddion S4C

Ymosodiadau Nottingham: Teuluoedd yn dweud y bydd ymchwiliad cyhoeddus

13/08/2024
Ian Coates, Barnaby Webber a Grace O'Malley-Kumar

Bydd ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal er mwyn archwilio'r amgylchiadau a arweiniodd at Valdo Calocane yn trywanu tri pherson i farwolaeth yn Nottingham fis Mehefin y llynedd, yn ôl teuluoedd y dioddefwyr.  

Cafodd y myfyrwyr 19 oed Barnaby Webber a Grace O’Malley-Kumar eu trywanu gan Calocane, a oedd yn arfer byw yn Hwlffordd, Sir Benfro ar 13 Mehefin 2023. Wedi hynny fe laddodd Calocane y gofalwr ysgol Ian Coates a oedd yn 65 oed.

Yn ôl datganiad gan eu teuluoedd, maen nhw wedi cael cadarnhad y bydd ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal. Daeth y cadarnhad ar ôl cyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, Wes Streeting a'r Twrne Cyffredinol, Richard Hermer.

Mae'n nodi : “Wedi cyfarfodydd gyda'r Twrne Cyffredinol a'r Ysgrifennydd Iechyd ddydd Mawrth yr wythnos diwethaf, rydym yn falch i ni gael cadarnhad y bydd ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal.

“Does dim penderfyniad ar ffurf derfynol yr ymchwiliad eto, ond rydym ni fel teuluoedd yn galw am un statudol, sy'n cael ei arwain gan farnwr."

Daw datganiad teulu'r dioddefwyr wedi i deulu Valdo Calocane ddweud wrth raglen Panorama'r BBC fod ei iechyd meddwl mor ddifrifol fod seiciatrydd wedi rhybuddio y gallai "ladd rhywun" dair blynedd cyn iddo achosi'r gyflafan.

Rhybudd 

Mae mam a brawd Calocane wedi dweud wrth y rhaglen eu bod ond wedi derbyn yr adroddiad meddygol oedd yn cynnwys y rhybudd ar ôl iddo gael ei ddedfrydu.

Yn 2020 cafodd ddiagnosis o sgitsoffrenia paranoiaidd. Ond mae ei deulu yn dweud mai dim ond tair blynedd yn ddiweddarach y daethon nhw i wybod hyn.

Maent yn galw am ymchwiliad cyhoeddus a newidiadau brys i'r gwasanaethau iechyd meddwl. 

Yn ôl ei fam Celeste a'i frawd Elias gallai'r llofruddiaethau fod "wedi eu hatal".

Dywedodd Elias wrth y BBC nad oedd Valdo Calocane wedi dangos unrhyw arwyddion o broblemau iechyd meddwl tan iddo dderbyn galwad ym mis Mai 2020. 

Roedd ei frawd yn crio ar y ffôn gydag e.

"Yn y diwedd mi ddywedodd, ' Dwi'n gallu clywed lleisiau," meddai Elias.

Cafodd adroddiad meddygol ei wneud ar ôl iddo dorri i mewn i fflatiau. 

Roedd cofnodion meddygol ym mis Gorffennaf 2020 yn rhybuddio bod "perygl y gallai hyn ddigwydd eto ac efallai y byddai Valdo yn y pendraw yn lladd rhywun". 

Ni chafodd unrhyw gyswllt gyda'r tîm iechyd meddwl ar ôl mis Medi 2022 pan gafodd ei gyfeirio yn ôl at y meddyg teulu.

"Yn y bôn maen nhw yn golchi ei dwylo ac yn dweud 'Oce dyna ni' " meddai ei fam. 

Mae'n dweud i'w mab ymbellhau oddi wrth y teulu dros y naw mis canlynol.

Cafodd Calocane ei ddedfrydu i gyfnod amhenodol mewn uned feddygol ar ôl pledio yn euog i ddynladdiad.

Adolygiad 

Mae'r adolygiad terfynol gan Y Comisiwn Ansawdd Gofal wedi ei gyhoeddi ddydd Mawrth, sydd wedi bod yn dadansoddi'r gofal a gafodd Calocane oddi mewn i Ymddiriedolaeth Iechyd GIG Sir Nottingham. 

Mae'n nodi nad oedd asesiadau risg wedi rhoi digon o sylw i'r ffaith nad oedd yn fodlon cymryd ei feddyginiaeth a'i fod yn cael symptomau cyson o seicosis.

Mae hefyd yn codi cwestiynau am y cyswllt rhwng yr ymddiriedolaeth â theulu Calocane, a oedd wedi codi pryderon am ei gyflwr meddyliol.   

Mae prif weithredwr yr ymddiriedolaeth wedi dweud wrth y BBC ei fod "wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn fy ngallu i atal trasiedi fel hyn rhag digwydd eto."

Dyw teuluoedd y rhai gafodd eu lladd ddim yn hapus â dedfryd Calocane. Maen nhw o'r farn y dylai fod wedi mynd i'r carchar am lofruddiaeth.

Fe gafodd ei ddedfryd ei hystyried yn Llys yr Apêl ond fe ddywedodd y barnwyr nad oedd ei ddedfryd yn rhy ysgafn.


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.