Rhybudd am daranau a glaw trwm mewn rhannau o Brydain
12/08/2024
Mae rhybudd am daranau a glaw trwm mewn rhai ardaloedd o Brydain ddydd Llun.
Daw'r rhybudd gan y Swyddfa Dywydd wedi cyfnod byr o dywydd poeth.
Mewn rhai ardaloedd o Loegr gallai'r tymheredd gyrraedd 33-34°C gan ei gwneud hi'r diwrnod poethaf yn y flwyddyn hyd yn hyn yno.
Mae rhybudd melyn yn ei le am stormydd taranau ar gyfer Gogledd Iwerddon, gogledd Lloegr a'r Alban.
Ond mae'n bosib y bydd rhannau o Gymru yn gweld glaw trwm a tharanau hefyd, meddai'r Swyddfa Dywydd.
Does dim disgwyl i'r tywydd poeth bara gyda'r tymheredd yn gostwng a'r tywydd yn dod yn fwy ansefydlog.