Newyddion S4C

Ceffylau yn 'fwy clyfar' na'r disgwyl yn ôl ymchwil newydd

ceffylau

Mae ceffylau yn fwy clyfar nag oedd arbenigwyr wedi ei feddwl yn flaenorol yn ôl ymchwil newydd.

Mae astudiaeth yn dangos bod yr anifeiliaid wedi perfformio'n well na'r disgwyl mewn gêm gymhleth yn seiliedig ar wobrau.

Pan wrthodwyd trîts i'r ceffylau am beidio â dilyn rheolau'r gêm, roeddynt yn gallu newid strategaethau ar unwaith i gael mwy o wobrau.

Mae'n dangos bod gan yr anifeiliaid y gallu i feddwl a chynllunio ymlaen llaw - rhywbeth oedd arbenigwr wedi meddwl oedd y tu hwnt i'w gallu, meddai gwyddonwyr o Brifysgol Nottingham Trent (NTU).

Fe allai deall sut mae ceffylau’n dysgu helpu gofalwyr i’w hyfforddi mewn modd mwy trugarog, ychwanegodd y tîm.

Dywedodd Dr Carrie Ijichi, uwch ddarlithydd mewn gwyddoniaeth ceffylau yn NTU bod ceffylau yn fwy clyfar nag oedd yr ymchwilwyr yn meddwl.

“Fe’u hystyrir yn anifeiliaid cyffredin, ond mae’r astudiaeth hon yn dangos eu bod nhw, mewn gwirionedd, yn fwy datblygedig," meddai.

'Synnu'

Er mwyn deall mwy, gosododd yr ymchwilwyr dasg i 20 ceffyl a oedd yn cynnwys tri cham.

Yn y cam cyntaf, cyffyrddodd yr anifeiliaid ddarn o gerdyn gyda'u trwyn er mwyn cael trît.

Ond aeth pethau'n fwy cymhleth pan gyflwynwyd golau. Byddai ceffylau'n cael llai o fwyd os oeddent yn cyffwrdd â'r cerdyn tra bod y golau wedi'i ddiffodd.

Canfu'r tîm fod y ceffylau'n dal i gyffwrdd â'r cerdyn, heb ystyried a oedd y golau ymlaen neu beidio, a chawsant eu gwobrwyo am ymatebion cywir.

Yng ngham olaf y gêm, nid oeddynt yn derbyn trît pan oeddynt yn cyffwrdd y cerdyn pan oedd y golau “stopio” ymlaen ac yn derbyn cosb 10 eiliad sef peidio cael chwarae.

Ond yn lle cyffwrdd â'r cerdyn heb ystyried y golau, canfu'r tîm fod y ceffylau'n cadw at y rheolau ac yn symud ar yr amser iawn er mwyn derbyn eu trîts.

Dywedodd yr ymchwilwyr fod hyn yn awgrymu yn hytrach na methu ag amgyffred rheolau’r gêm, roedd y ceffylau wedi ei deall ond wedi dod o hyd i ffordd newydd o chwarae.

Dywedodd Louise Evans, ymgeisydd PhD yn Ysgol Gwyddorau Anifeiliaid, Gwledig ac Amgylcheddol yr NTU: “Roedden ni'n disgwyl i berfformiad ceffylau wella pan wnaethon ni gyflwyno’r seibiant, ond fe gawson ni ein synnu gan ba mor gyflym ac arwyddocaol oedd y gwelliant.

“Fel arfer mae angen ailadrodd tasg gydag anifeiliaid sawl gwaith er mwyn iddyn nhw gael dysgu yn raddol, tra bod ein ceffylau wedi gwella ar unwaith pan wnaethon ni gyflwyno cosb am wallau.

“Mae hyn yn awgrymu bod y ceffylau’n gwybod beth oedd rheolau’r gêm drwy gydol yr amser.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.