Newyddion S4C

Gêm y Llewod i'w chynnal er un achos positif o Covid-19

Wales Online 07/07/2021
Warren Gatland
Warren Gatland

Fe fydd gêm y Llewod yn erbyn y Sharks nos Fercher yn mynd yn ei blaen er yr achos positif o Covid-19 ymysg tîm rheoli'r garfan. 

Roedd ansicrwydd a fyddai'r gêm yn cael ei chynnal ar ôl i'r aelod o dîm rheoli'r Llewod brofi'n bositif am y feirws, gyda dau chwaraewr a dau aelod o staff yn gorfod hunanynysu o ganlyniad.

Yn ôl WalesOnline, roedd pawb sy'n rhan o daith y Llewod wedi derbyn profion PCR ac roedd tynged y gêm yn dibynnu ar ganlyniadau prawf negyddol. 

Fe fydd y gic gyntaf am 19:00 nos Fercher (amser yma) yn hytrach na 18:00 fel oedd wedi ei drefnu'n wreiddiol.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.