‘Angen trafodaeth’ am y Fedal Ddrama medd awduron
Mae dau awdur amlwg wedi dweud bod angen trafodaeth am ysgrifennu o safbwynt cymeriadau o gefndiroedd lleiafrifol yn sgil canslo seremoni’r Fedal Ddrama eleni.
Mae’r Eisteddfod wedi gwrthod datgelu pam bod y seremoni wedi ei chanslo wrth iddi gychwyn brynhawn ddydd Iau.
Ers hynny mae sïon sydd heb eu cadarnhau wedi dod i’r amlwg bod y gystadleuaeth wedi ei hatal oherwydd bod awdur buddugol, a oedd yn wyn, wedi ysgrifennu drama o safbwynt cymeriad o leiafrif ethnig.
Wrth siarad ar Radio Cymru dywedodd yr awduron Dylan Iorwerth a Jon Gower bod angen trafodaeth ynglŷn â hynny.
Awgrymodd Dylan Iorwerth, sydd wedi ennill y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith, fod y ffaith nad oedd yr Eisteddfod yn fodlon trafod beth ddigwyddodd yn “broblem”.
Dywedodd ar raglen Bore Sul ei fod “wedi clywed peth tebyg iawn o ffynhonell arall” am y rhesymau pam y cafodd y seremoni ei chanslo.
“Mae ‘na drafodaeth bwysig i’w chael yn does ond drwy weithredu fel hyn dydi’r drafodaeth yna ddim yn digwydd,” meddai.
Dywedodd Jon Gower, sy'n gyn enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn, bod y llyfr mae’n ei hysgrifennu ar hyn o bryd yn adrodd hanes dyn du.
“Gan amla’ chi’n gwybod gyda phethau fel hyn mai safon yw’r broblem, ond fan hyn mae ‘na broblem arall,” meddai.
“Ac wrth gwrs rydych chi mewn niwl mewn ffordd.
“Dw i wrthi heddi yn trio gweithio mas... dw i’n gweithio ar lyfr ar y foment ambiti Pêl-droediwr Americanaidd.
“Ac un beth dw i’n gorfod gofyn i destun y llyfr yw i ychwanegu rhywbeth at y rhagair sy’n cyfiawnhau pam y galla i fel dyn gwyn sgwennu stori fe.
“Chimod, ni nawr mewn cyfnod o blismona mewn ffordd a dwi’n deall yn iawn.
“Ond mae’r sensitifrwydd am y pethau yma yn medru mynd yn rhy bell.
“Ydw i’n cael yr hawl i sgwennu fel menyw? Mae’n iawn i fi sgwennu am gymeriad sy’n fenyw ond os dwi’n sgwennu megis menyw wedyn mae ‘na rwystrau yn codi dwi’n credu.”
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1821563860614017108
‘Rhyfedd’
Dywedodd Dylan Iorwerth ei fod yn codi cwestiynau am ysgrifennu o safbwyntiau eraill gan gynnwys pobl sydd ag anhwylderau iechyd meddwl.
“Dio’m jesd yn ymwneud a hil neu ryw neu rywedd - mae ‘na nifer o straeon er enghraifft, nofelau ac yn y blaen, wedi ennill yn ddiweddar sy’n sgwennu o safbwynt rywun a chyflwr meddwl arbennig,” meddai.
“Hyd yn oed y Fedal Ryddiaith eleni. Felly mae’r cwestiwn yn codi ynglŷn â hynna.
“Ond beth sy’n rhyfedd ydi eu bod nhw wedi canslo'r seremoni, wedi canslo'r gystadleuaeth.
“Nid dim ond dweud bod un person yn anghymwys. A dyna sy’n rhyfedd.”
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1822295272946332024
‘Ddim am ymhelaethu’
Nid oedd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses am ymateb i’r awgrym pan holwyd hi gan Newyddion S4C ddydd Gwener.
Gofynnodd gohebydd Newyddion S4C Ellis Roberts: “Oedd ‘na ddrama a fyddai wedi bod yn fuddugol oedd yn ymwneud â hil ond bod yr awdur o gefndir ethnig gwyn?”
Ymatebodd Betsan Moses: “Ni ‘di dweud, ni ‘di nodi, y broses ni ‘di nodi’r penderfyniad a fyddwn ni ddim yn ymhelaethu ymhellach ‘na hynny.”
Datganiad gwreiddiol yr Eisteddfod oedd: “Yn dilyn trafodaethau a gafwyd ar ôl cwblhau’r broses o feirniadu’r Fedal Ddrama, daethpwyd i’r penderfyniad bod yn rhaid atal y gystadleuaeth eleni,” medden nhw.
“Bydd yr Eisteddfod yn adolygu prosesau a gweithdrefnau ein cystadlaethau cyfansoddi yn sgil y penderfyniad hwn."
Mae penderfyniad yr Eisteddfod i ganslo'r seremoni wedi denu cefnogaeth ar-lein.
Dywedodd y gantores Lleuwen: “Ynglŷn â'r fedal ddrama... lot o siarad a dim llawer o wrando.
“Fedr pobl gwyn ddim parhau i gadw'r hawl i siarad ar ran pobl sy ddim yn wyn. Dw i'n cymeradwyo ymateb yr Eisteddfod i herio hiliaeth systemig.
“Da ni gyd yn ran o'r system hwn.”
Roedd cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn gwobrwyo cyfansoddi drama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd, a’r beirniaid eleni oedd Mared Swain, Geinor Styles a Richard Lynch.