Newyddion S4C

Effaith y terfysg ‘i’w deimlo am flynyddoedd’ yn y system gyfiawnder

11/08/2024
Terfysg Lloegr

Bydd effaith y terfysg dros yr wythnosau diwethaf “i’w deimlo am fisoedd a blynyddoedd”, meddai’r Ysgrifennydd Cyfiawnder.

Dywedodd Shabana Mahmood y bydd y terfysgoedd yn arafu ymdrechion y Llywodraeth Lafur newydd i "ailadeiladu" y system gyfiawnder.

Roedd y system gyfiawnder eisoes yn wynebu oedi mawr oherwydd nifer uchel o achosion oedd yn disgwyl cael eu clywed yn y llysoedd a diffyg lle yn y carchardai.

Dywedodd Shabana Mahmood fod y weinyddiaeth gyfiawnder wedi ymateb i’r her o “sicrhau bod y lladron a’r hwliganiaid hyn” yn wynebu achosion llys cyn gynted a bo modd.

Ond dywedodd bod hynny yn ei dro wedi ei wneud yn anoddach i fynd i’r afael a phroblemau ehangach y system gyfiawnder.

“Bydd effaith y dyddiau hyn o anhrefn i’w teimlo am fisoedd a blynyddoedd i ddod,” meddai.

“Mae'n gwneud y gwaith o ailadeiladu'r system gyfiawnder yn anoddach.”

‘Rhybuddio’

Yn y cyfamser mae’r cyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus wedi rhybuddio y gallai rhai protestwyr wynebu hyd at 10 mlynedd yn y carchar.

Dywedodd Stephen Parkinson, pennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS), y bydd achosion llys a fydd yn cynnwys “cyhuddiadau mwy difrifol gyda chosbau llymach” dros y dyddiau nesaf.

Mae llawer sydd wedi’u cyhuddo hyd yma wedi’u cyhuddo o anhrefn treisgar, sy’n arwain at uchafswm dedfryd o bum mlynedd.

Yn ôl y Sunday Times mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ystyried cyhuddo pobl o’r drosedd fwy difrifol o derfysg (rioting), a allai arwain at 10 mlynedd o garchar.

Dywedodd Stephen Parkinson: “Fe wnaethon ni rybuddio am y canlyniadau a byddwn ni’n gwireddu hynny.

“Nid yw’n ymwneud â dial, mae’n ymwneud â sicrhau cyfiawnder.”

Llun gan Owen Humphreys / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.