Newyddion S4C

'Calonnau ar chwâl': Teyrnged teulu i ferch chwech oed fu farw yn ymosodiad Southport

10/08/2024
Bebe King

Mae mam a thad merch a gafodd ei lladd yn ymosodiad Southport wedi rhoi teyrnged iddi hi a hefyd “dewrder anhygoel” ei chwaer a lwyddodd i ffoi.

Bu farw Bebe King yn yr ymosodiad ac roedd ei chwaer hŷn Genie hefyd yn y fan a’r lle yn yr ymosodiad ar Lannau Merswy ar 29 Gorffennaf.

Mewn datganiad dywedodd eu rhieni Lauren a Ben King bod yr ymosodiad wedi “chwalu ein byd”.

“Ynghyd â dwy ferch hardd arall, Elsie ac Alice, cymerwyd hi oddi wrthym mewn gweithred treisgar nad oes modd ei ddeall sydd wedi gadael ein calonnau ar chwâl,” medden nhw.

“Roedd ein Bebe annwyl, dim ond chwe blwydd oed, yn llawn llawenydd, golau, a chariad, a bydd hi bob amser yn aros yn ein calonnau fel y ferch llon, garedig  rydyn ni'n ei charu.

“Mae cariad a chefnogaeth ein cymuned a thu hwnt wedi bod yn ffynhonnell anhygoel o gysur yn ystod y cyfnod ofnadwy o anodd hwn.

“Rydyn ni wedi cael ein syfrdanu gan y caredigrwydd a’r tosturi a ddangoswyd tuag at ein teulu.

“Mae’r ymateb gan Southport, Lerpwl gyfan, a hyd yn oed ymhellach i ffwrdd wedi cyffwrdd yn ddwfn â’n calonnau, ac rydym mor ddiolchgar i bawb sydd wedi estyn allan atom ni.

“Rydym am gydnabod ein merch hŷn, Genie, a welodd yr ymosodiad ac a lwyddodd i ddianc. Mae hi wedi dangos cryfder a dewrder anhygoel, ac rydym mor falch ohoni.

“Mae ei gwydnwch yn dyst i’r cariad a’r cwlwm a rannodd gyda’i chwaer fach, a byddwn yn parhau i’w chefnogi wrth i ni lywio’r daith boenus hon gyda’n gilydd fel teulu.

“Mae ein meddyliau hefyd gyda phawb arall sy’n gysylltiedig â’r drasiedi hon a phawb a gafodd eu hanafu.”

Cyhuddiad

Cafodd Alice Dasilva Aguiar, naw oed, Bebe King, chwech oed, ac Elsie Dot Stancombe, saith oed, eu trywanu i farwolaeth yn yr ymosodiad ar Stryd Hart yn Southport.

Mae Axel Rudakubana, a symudodd o Gaerdydd i Southport yn blentyn, wedi ymddangos o flaen llys ynadon wedi ei gyhuddo o'r troseddau honedig.

Cafodd Rudakubana hefyd ei gyhuddo o geisio llofruddio dau oedolyn, yr hyfforddwraig yoga Leanne Lucas a’r dyn busnes John Hayes, yn ogystal â cheisio llofruddio’r wyth o blant na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.