'Cyfraniad oes i'r Eisteddfod': Teyrnged Angharad Llwyd i'w mam Leah Owen
'Cyfraniad oes i'r Eisteddfod': Teyrnged Angharad Llwyd i'w mam Leah Owen
Roedd Angharad Llwyd, merch Leah Owen yn emosiynol wrth roi teyrnged i'w mam ar lwyfan y Pafiliwn yn yr Eisteddfod nos Wener.
Bu farw Leah Owen, a oedd yn ffigwr amlwg wrth hyfforddi ac arwain yn nifer o gystadlaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ym mis Ionawr eleni.
Nos Wener ar lwyfan y pafiliwn ym Mhontypridd roedd ei merch, Angharad Llwyd wedi rhoi teyrnged iddi wrth gyhoeddi tlws newydd er cof amdani.
“Mae wedi bod yn wythnos ryfedd a digon anodd i ni fel teulu yn ‘Steddfod heb mam," meddai.
“Er, cofiwch, doeddan ni ddim yn gweld llawer ohoni trwy gydol wythnos y Steddfod fel arfer.
“Roedd hi’n rhy brysur mewn ymarferion, rhagbrofion, ac yn y pafiliwn yn gwylio’r cannoedd y bu hi’n eu hyfforddi dros y blynyddoedd.
“Yr unigolion, deuawdau, triawdau a phedwarawdau, partïon a chorau, neu’n arwain y corau hynny wrth gwrs."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1742996862045446271
'Diolch'
Cafodd ei magu yn Rhosmeirch ar Ynys Môn, ac yn byw ym mhentref Prion yn Sir Ddinbych ers blynyddoedd.
Yr Eisteddfod ym Moduan ym Mhen Llŷn y llynedd oedd ei holaf ac fe dderbyniodd caredigrwydd gan nifer o bobl.
“Y llynedd, mi gafodd mam ei dymuniad o fynd i Foduan yn ei gwendid, gan werthfawrogi’r caredigrwydd gafodd hi yno, gan bawb," meddai Angharad.
“Ac roedd hi wedi mynnu y bod ni yn addo dod yma eleni, anodd neu beidio."
Wedi casgliad er cof amdani, mae £5,000 wedi'i rhoi i'r Eisteddfod er mwyn sefydlu tlws coffa yn ei henw yn y brif gystadleuaeth i gorau cerdd dant.
Roedd yn gystadleuaeth enillodd sawl gwaith.
Cyhoeddodd nifer o recordiau yn ystod ei gyrfa lwyddiannus, gan ddechrau yng nghanol y 70au.
Enillodd Fedal Syr T.H. Parry Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2010.
“Gai diolch am y cyfle gawson ni yma i gofio am mam a’i chyfraniad oes i’r Eisteddfod Genedlaethol," meddai Angharad.