62 wedi marw ar ôl i awyren blymio i'r ddaear ym Mrasil
Mae 62 o bobl wedi marw ar ôl i awyren blymio i’r ddaear ym Mrasil.
Roedd yr Awyren ATR 72-500 yn teithio o Cascavel yn nhalaith ddeheuol Parana i’r prif faes awyr yn ninas Sao Paulo, pan blymiodd i’r ddaear yn nhref Vinhedo, yn ôl y cwmni hedfan Voepass.
Mae lluniau sydd wedi eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos yr awyren yn syrthio’n fertigol, gan droelli yn yr awyr.
Roedd yr awyren yn cludo 58 o deithwyr yn ogystal â phedwar o’r criw. Mae awdurdodau lleol yn adrodd nad oes unrhyw un wedi goroesi’r digwyddiad, wedi i’r awyren lanio ar adeilad preswyl.
Mae lluniau hefyd yn dangos tanau mawr a mwg yn codi o safle’r drylliad, ble mae nifer fawr o dai.
Llun: Llun llyfrgell o awyren ATR 72-500 (Alexandro Dias, CC BY-SA)