Newyddion S4C

Pêl-droed: Beth yw gobeithion timau Cymru yn yr EFL eleni?

10/08/2024
Paul Mullin, Aaron Ramsey, Matt Grimes a Bryn Morris

Fe fydd Caerdydd, Abertawe Wrecsam a Chasnewydd yn dechrau eu tymor yng nghynghreiriau'r EFL ddydd Sadwrn.

Mae Abertawe a Chaerdydd yn paratoi am dymor arall yn y Bencampwriaeth, Wrecsam yn chwarae yn Adran Un ar ôl ennill dyrchafiad y llynedd a Chasnewydd yn cystadlu yn Adran Dau.

Dros y misoedd diwethaf mae'r timau wedi arwyddo chwaraewyr, newid rheolwyr ac mae'r holl baratoadau yn eu lle ar gyfer gêm gyntaf y tymor.

Beth felly yw gobeithion clybiau Cymru ar gyfer y tymor i ddod?

Caerdydd - Bulut yn arwain yr Adar Gleision i'r Uwch Gynghrair?

Yn ystod yr haf mae rheolwr Caerdydd Erol Bulut wedi bod yn brysur iawn yn arwyddo chwaraewyr.

Mae nifer o enwau adnabyddus fel Calum Chambers ac Anwar El Ghazi eisoes wedi arwyddo i'r clwb.

Tymor diwethaf fe orffennodd y clwb yn y 12fed safle 12 yn y Bencampwriaeth, gan ennill yn narbi de Cymru am y tro cyntaf ers mis Mawrth 2021.

Mae'r bwcis yn rhagweld safle terfynol digon tebyg eleni, ond gyda nifer o chwaraewyr newydd yn y garfan, fydd cefnogwyr yn ffyddiog bod gan eu tîm y gallu i gystadlu am le yn y gemau ail-gyfle ym mis Mai.

Image
Yakou Meite
Yakou Meite yn derbyn y bêl yn erbyn Reading (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Sunderland yw gwrthwynebwyr cyntaf yr Adar Gleision eleni, gyda'r gêm yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Fydd darbi de Cymru cynta'r tymor ar 25 Awst yn Stadiwm Swansea.com, a'r ail yn y brifddinas ar 18 Ionawr.

Trosglwyddiadau mewn: Chris Willock (Queens Park Rangers), Calum Chambers (Aston Villa), Anwar El Ghazi (Mainz 05), Baylin Johnson (AFC Bournemouth), Alexander Robertson (Manchester City), Wilfried Kanga (Hertha BSC - ar fenthyg)

Trosglwyddiadau allan: Rogan Luthra (Derby County), Sheyi Ojo (diwedd cytundeb), Romaine Sawyers (diwedd cytundeb), Jai Semenyo (diwedd cytundeb), Chanka Zimba (diwedd cytundeb)

Abertawe - Yr Elyrch yn hedfan?

Gorffen yn y 14eg safle oedd hanes Abertawe yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf, yr ail safle isaf maen nhw wedi gorffen yn y gynghrair ers disgyn o'r Uwch Gynghrair yn 2018.

Cafodd Michael Duff ei ddiswyddo gan y clwb ym mis Rhagfyr ac fe benodwyd Luke Williams fel rheolwr.

Enillodd darbi de Cymru ym mis Mawrth ac mae wedi ail-osod y dull nodweddiadol,  The Swansea Way, o chwarae pêl-droed, sef ceisio rheoli meddiant.

Yn ystod yr haf mae wedi cael cyfle i ychwanegu chwaraewyr i'r garfan gan gynnwys Laurence Vigouroux o Burnley a chyn-ymosodwr Bordeaux, Žan Vipotnik.

Ond mae chwaraewyr wedi gadael y clwb hefyd. Un o'r rhai amlwg yw Nathan Wood, sydd wedi ymuno â Southampton.

Image
Laurence Vigouroux
Laurence Vigouroux yn erbyn Rio Ave yn Stadiwm Swansea.com (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Mae prif gôl-geidwad y clwb y tymor diwethaf, Carl Rushworth wedi dychwelyd i Brighton hefyd ar ôl cyfnod ar fenthyg yn SA1.

Fe fydd Abertawe yn cychwyn eu tymor oddi cartref yn erbyn Middlesborough.

Bydd nifer o gefnogwyr yn gobeithio gall yr Elyrch wthio am safle yn y gemau ail-gyfle, ond mae arbenigwyr yn rhagweld mai yng nghanol y tabl fyddan nhw.

Trosglwyddiadau mewn: Gonçalo Franco (Moreirense), Eom Ji-sung (Gwangju), Laurence Vigouroux (Burnley), Žan Vipotnik (Bordeaux)

Trosglwyddiadau allan: Nathan Wood (Southampton),  Jerry Yates (Derby County - ar fenthyg),  Joel Cotteril (Swindon Town - ar fenthyg), Cameron Congreve (Bromley - ar fenthyg), Mykola Kukharevych (Hibernian - ar fenthyg)

Wrecsam - Y Dreigiau yn rhuo yn Adran Un

Dan Phil Parkinson, mae Wrecsam wedi ennill dyrchafiad dau dymor yn olynol.

Roedd yn rhaid i gefnogwyr y Dreigiau fodloni ar yr ail safle yn Adran Dau y llynedd, wrth iddyn nhw orffen y tu ôl i'r pencampwyr, Stockport County.

Dros yr haf, mae Wrecsam wedi bod yn mynd benben â thimau Uwch Gynghrair Lloegr yn eu paratoadau ar gyfer y tymor, gan gynnwys chwarae mewn gêm gyfartal yn erbyn Chelsea yn yr Unol Daleithiau.

Wycombe fydd gwrthwynebwyr Wrecsam ar ddiwrnod cyntaf y tymor yn y Cae Ras, wrth iddyn nhw gamu i fyny safon unwaith eto.

Image
Andy Cannon
Andy Cannon yn ystod gêm Wrecsam yn erbyn Vancouver Whitecaps. (Llun: Wochit)

Ond a yw trydydd dyrchafiad o'r fron yn obaith realistig? Efallai wir, yn ôl y bwcis, sydd yn rhagweld y bydd y cochion yn gorffen yn safleoedd y gemau ail-gyfle. 

Dros y ddeufis diwethaf mae'r clwb wedi bod yn ychwanegu chwaraewyr i'w carfan sy'n enwau cyfarwydd.

Mae'r golwr Arthur Okonkwo wedi dychwelyd, yn barhaol y tro hwn yn dilyn tymor llwyddiannus ar fenthyg o Arsenal y llynedd.

Maen nhw hefyd wedi arwyddo'r chwaraewr canol cae Ollie Rathbone o Rotherham, gan dalu'r ffi drosglwyddiad uchaf erioed yn hanes y clwb.

Trosglwyddiadau mewn: Arthur Okonkwo (Arsenal), Lewis Brunt (Leicester City), George Dobson (Charlton Athletic), Callum Burton (Plymouth Argyle), Sebastien Revan (Aston Villa), Dan Scarr (Plymouth Argyle)

Trosglwyddiadau allan: Luke McNicholas (Rochdale - ar fenthyg), Jordan Davies (Grimsby Town - ar fenthyg), Aaron Hayden (Carlisle United), Rob Lainton (diwedd cytundeb), Callum McFadzean (diwedd cytundeb), Ben Tozer (Forest Green Rovers), Jordan Tunnicliffe (Solihul Moors), Luke Young (Cheltenham Town)

Casnewydd - Rheolwr newydd a charfan newydd

Yn annisgwyl ym mis Mehefin, daeth cadarnhad gan CPD Casnewydd bod Graham Coughlan wedi gadael ei swydd fel rheolwr.

Yn ddiweddar, mae'r clwb wedi dioddef ergyd arall wedi i'w prif sgoriwr y llynedd, Will Evans, adael er mwyn arwyddo i Mansfield yn Adran Un.

Nelson Jardim o Bortiwgal yw rheolwr newydd y clwb, ac mae nifer o newidiadau wedi bod ers iddo gychwyn y swydd.

Image
Hamzad Kargbo
Un o wynebau newydd Casnewydd, Hamzad Kargbo (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Mae 12 o chwaraewr wedi gadael Rodney Parade, wrth iddo ddweud y bydd y clwb yn newid eu ffordd o chwarae eleni.

Cheltenham Town oddi cartref yw gêm agoriadol y clwb, ac mae nifer o fwcis yn rhagweld tymor anodd i'r Alltudion.

Fe orffennodd Casnewydd yn y 18fed safle'r llynedd, pedwar safle yn unig uwchben y safleoedd disgyn.

Nhw yw un o'r ffefrynnau am y cwymp eleni, a hynny yn bennaf oherwydd bod nifer o chwaraewyr wedi gadael y clwb a llawer o wynebau newydd wedi ymuno.

Trosglwyddiadau mewn: Oliver Greaves (Mickleover), Matt Baker (Stoke City), Ciaran Brennan (Sheffield Wednesday), Jacob Carney (Sunderland), Anthonny Glennon (Grimsby Town), Joe Thomas (Abertawe), Kai Whitmore (Hwlffordd), Michael Spellman (Sunderland), Cameron Antwi (Caerdydd), Courtney Baker-Richardson (Crewe Alexandra), Cameron Evans (Abertawe), Bobby Kamwa (Burton Albion), Hamzad Kargbo (Queens Park Rangers)

Trosglwyddiadau allan: Will Evans (Mansfield Town), Omar Bogle (Crewe Alexandra), Ryan Delaney (Swindon Town), Harry Charsley (Oldham Athletic), Jonny Maxted (Brackley), Scot Bennett (Cheltenham Town), Joe Day (Cheltenham Town), Offrande Zanzala (AFC Fylde), James Waite (Weston-super-Mare), Declan Drysdale (Tranmere Rovers), Harrison Bright (Salisbury), Sam Bowen (Solihull Moors)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.