Newyddion S4C

Carchar i ddyn o Sir y Fflint am anfon negeseuon 'maleisus' ar-lein yn annog terfysgoedd yn Lloegr

09/08/2024
Richard David Williams

Mae dyn o Sir y Fflint wedi cael dedfryd o dri mis yn y carchar ar ôl anfon negeseuon ar-lein yn annog pobl i ymuno â phrotestiadau treisgar yn Lloegr.

Fe wnaeth Richard David Williams, 34 oed, o Faes Deri, Ewlo, bledio’n euog i drosedd o gyfathrebu maleisus ar ôl anfon negesuon yn ymwneud â’r protestiadau gwrth-fewnfudo sydd wedi cymryd rhan mewn sawl dinas dros y bythefnos diwethaf.

Williams yw'r person cyntaf i ymddangos mewn llys yng ngogledd Cymru wedi’i gyhuddo o drosedd mewn cysylltiad â’r aflonyddwch.

Mewn gwrandawiad yn yr Wyddgrug ddydd Gwener, fe gafodd ddedfryd o dri mis yn y carchar am y drosedd, a gafodd ei chyflawni ar 7 Awst yn Ewlo.

Fe wnaeth Williams gyhoeddi post yn annog pobl i gymryd rhan yn y terfysg, gan hefyd rannu cynnwys oedd yn sarhaus i fewnfudwyr mewn grŵp Facebook lleol oedd yn annog y protestiadau.

Cafodd ei arestio ddydd Mercher, yr un diwrnod a gafodd y drosedd ei chyflawni, cyn cael ei gyhuddo gan Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS).

Dywedodd Jenny Hopkins, Prif Erlynydd y Goron ar gyfer CPS Cymru: “Roedd Williams yn meddwl yn anghywir y gallai ledaenu cynnwys difrïol a bygythiol o’r tu ôl i sgrin gyfrifiadur. 

"Er iddo beidio â chymryd rhan yn y terfysg ei hun, defnyddiodd gyfryngau cymdeithasol i annog eraill i ymddwyn yn dreisgar.

“Rwy’n gobeithio y bydd canlyniad heddiw yn anfon neges glir i’r rhai sydd yn defnyddio’r rhyngrwyd i hau casineb - mae gan eich gweithredoedd ganlyniadau a byddwch yn cael eich erlyn.”

Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman: “‘Hoffwn atgoffa’r cyhoedd yng ngogledd Cymru ein bod yn cymryd unrhyw honiad o drosedd, boed wedi’i gyflawni ar-lein neu’n bersonol, o ddifrif.

“Byddwn yn dod o hyd i’r rhai sy’n postio mewn ffordd a amheuir yn droseddol anghyfrifol, byddwn yn cynnal ymchwiliad yn gyflym, a lle bo’n briodol, byddent yn cael eu cyhuddo.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.