Teyrnged teulu i ‘aelod poblogaidd o’r gymuned beicio modur’
Mae teulu wedi rhoi teyrnged i feiciwr modur 54 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys brynhawn Sul 4 Awst.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am tua 16:40 ar ffordd yr A470 rhwng Llangurig a Rhaeadr Gwy.
Dywedodd teulu Mark Morris o Abertawe ei fod yn “dad cariadus, yn ffrind ffyddlon, ac yn aelod hynod boblogaidd o’r gymuned beicio modur”.
“Roedd yn cael ei werthfawrogi gan bawb y cyfarfu ag ef ac roedd yn hapusaf pan oedd allan ar ei feic," medden nhw.
“Treuliodd Mark ran fawr o’i fywyd yn gweithio i’r Post Brenhinol yn ne Cymru, a bydd colled fawr ar ei ôl gan yr aelodau hynny o deulu Swyddfa’r Post y bu’n gweithio’n agos â nhw.
Mae ei deulu wedi eu siomi wrth golli eu tad ac wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae’r llu hefyd yn apelio am unrhyw un a all fod â lluniau dash cam o’r digwyddiad, i gysylltu gyda nhw.