BBC wedi gofyn i Huw Edwards dalu dros £200,000 yn ôl
BBC wedi gofyn i Huw Edwards dalu dros £200,000 yn ôl
Mae'r BBC wedi ysgrifennu at Huw Edwards yn gofyn iddo ddychwelyd dros £200,000 a dalwyd iddo ar ôl cael ei arestio am fod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant.
Mewn llythyr at staff dywedodd Cadeirydd y BBC Samir Shah fod Edwards wedi ymddwyn yn anonest, gan ddweud bod y gorfforaeth yn credu ei fod wedi cymryd ei gyflog er ei fod yn gwybod ei fod am bledio’n euog i’r troseddau.
Dywedodd fod Huw Edwards wedi bod yn byw "bywyd dwbl".
"Gadewch imi fod yn glir: Huw Edwards yw'r dihyrun yma," meddai.
"Y dioddefwyr yw'r plant hynny y darparodd Huw Edwards farchnad drwy eu diraddio."
Mae'r BBC hefyd wedi cyhoeddi y bydd adolygiad annibynnol i ddiwylliant y gweithle gan fod y gorfforaeth hefyd yn credu fod digwyddiadau diweddar wedi rhoi sylw i faterion o anghydbwysedd pŵer yn y gweithle.
'Anfri'
Mewn datganiad, dywedodd Bwrdd y BBC ei fod yn "cefnogi'r penderfyniadau a wnaed gan y cyfarwyddwr cyffredinol [Tim Davie] a'i dîm yn ystod y cyfnod hwn".
Ychwanegodd pe bai Edwards wedi bod yn agored pan ofynnwyd iddo gan y BBC am ei arestio, "ni fydden ni wedi parhau i dalu arian cyhoeddus iddo".
“Mae’n amlwg wedi tanseilio’r ymddiriedaeth yn y BBC ac wedi dwyn anfri arnom ni”.
Yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher diwethaf, cyfaddefodd Huw Edwards iddo dderbyn delweddau anweddus o blant.
Roedd Huw Edwards wedi ei gyhuddo o gael chwe delwedd categori A, 12 delwedd categori B a 19 delwedd categori C ar WhatsApp ac fe blediodd yn euog i'r holl gyhuddiadau.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Westminster ar 16 Medi.