Y Gadair: Dylunydd ‘wrth ei fodd’ ar ôl i’r ‘cyfle ddod’ o'r diwedd
Mae dylunydd y Gadair eleni yn dweud ei fod wedi bod eisiau creu cadair ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ers blynyddoedd maith.
Yn enedigol o Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin eglurodd Berian Daniel ei fod wedi cael cyfnod o brofiad gwaith yn Ysgol Gyfun Gŵyr lle’r oedd ei dad yn brifathro.
“Roedd John Heseltine, yr athro celf a dylunio, wrthi’n adeiladu cadair ar gyfer Eisteddfod,” meddai.
“Dydw i ddim yn cofio pa Eisteddfod ond roedd yn un maint llawn ac ro’n i wedi fy nghyfareddu.
“Rydw i’n cofio meddwl y byddwn wrth fy modd yn cael cyfle i greu Cadair ar gyfer Eisteddfod fy hun rhyw ddydd.
“A dyma ni, mae’r cyfle wedi dod i greu ac adeiladu Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.
Fe fydd seremoni fawr olaf yr Eisteddfod Genedlaethol – seremoni Cadeirio’r Bradd – yn cael ei chynnal ddydd Gwener.
Cyflwynir y Gadair eleni am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau, ar y teitl ‘Cadwyn’.
Y beirniaid yw Aneirin Karadog, Dylan Foster Evans a Huw Meirion Edwards.
Derw o goedwig hynafol, gwaith haearn yn adlewyrchu diwydiant y cymoedd a glo, ‘Aur y Rhondda’, yw’r nodweddion yn y Gadair eleni.
Mae’r goeden wedi ei thorri yn ei hanner ac yn y canol mae ‘afon’ o ddarnau glo wedi’u boddi mewn resin gyda’r cwbl yn cael ei ddal yn ei le gan fariau haearn.
Esboniodd Berian Daniel bod y tair rhan yn cynrychioli afonydd Rhondda, Cynon a Thaf sy’n rhoi ei henw i’r sir sy’n gartref i’r Brifwyl eleni.
“Disgyblion Ysgol Llanhari ym Mhont-y-clun ddaeth â’r syniad o greu afon o lo a’r term ‘Aur y Rhondda’,” meddai.
“Glo ddaeth o ddaear y cymoedd gan greu gwaith a chyfoeth. Ac er bod y diwydiant wedi dod i ben, mae’i ddylanwad yn parhau’n gryf ac roedd yr ysgol am ei weld yn cael ei adlewyrchu yn y gadair hon.”
‘Penbleth’
 hithau’n dathlu ei phen-blwydd yn 50 mlwydd oed yn 2024, Ysgol Llanhari sy’n noddi’r Gadair eleni a bu holl ddisgyblion yr ysgol, yn ogystal â staff a ffrindiau, yn gweithio’n ddiwyd i godi’r arian angenrheidiol.
Dros y misoedd diwethaf mae Berian wedi cydweithio gyda grwpiau yn yr ysgol i greu a chwblhau’r dyluniad.
Aeth â’i syniadau yn ôl i’w weithdy yn Nhreganna, Caerdydd.
“Rydw i wedi mwynhau’r misoedd diwethaf yn trafod syniadau gyda disgyblion Llanhari, cynllunio’r gadair ac yna’n mynd ati i’w chreu,” meddai.
“Cefais ddarnau derw gan gwmni Milled Wood yn y Bontfaen. Mae’n ddarn sydd wedi dod o goeden oedd yn tyfu nid nepell o gartref Iolo Morganwg ’slawer dydd.
“Mae un darn wedi’i ddefnyddio ar gyfer cefn y Gadair. Rhannais hwnnw’n ddau a’u troi tu waered fel eu bod yn gymesur gyda’i gilydd. Mae’r darn arall yn cael ei ddefnyddio i greu’r sedd.
“Achosodd creu’r afon o lo gryn benbleth gan fod pob darn bach wedi’i guddio gan resin. Roedd rhaid iddo fod yn gwbl gywir.
“Bûm yn arbrofi’n helaeth i ddarganfod modd i sicrhau nad oedd ’na swigod aer yn ymddangos yn y resin.
“Rwy’n siŵr fy mod wedi profi’r broses bymtheg i ugain o weithiau i gyd, ond rydw i’n hapus gyda’r ffordd mae wedi gweithio.”
Haearn sy’n creu’r Nod Cyfrin, ac mae elfennau o natur, diwylliant a diwydiant cymoedd Rhondda, Cynon a Thaf yn y Gadair orffenedig.
Daw’r ysbrydoliaeth am y rhain gan ddisgyblion yr ysgol.
Ychwanegodd Berian ei fod wedi dysgu llawer wrth fynd ati i greu’r Gadair.
“Mae pobl yn meddwl ei fod yn waith hawdd ond dydi o ddim,” meddai.
“Rwy’n ymwybodol bod y Gadair yn mynd i eistedd yng nghartref yr enillydd ac rwy’n awyddus i greu rhywbeth sy’n gyfoes ac eto’n draddodiadol ac yn cyfleu’r ardal.”
Diolchodd Berian i staff, disgyblion a chyfeillion Ysgol Llanhari am ei ddewis i ddylunio a chreu Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Gwireddu breuddwyd yn wir,” meddai.
Cynhelir y seremoni yn y Pafiliwn brynhawn Gwener, 9 Awst am 16:00.