Newyddion S4C

Penderfynu diarddel Huw Edwards o’r Orsedd a Llys yr Eisteddfod

Penderfynu diarddel Huw Edwards o’r Orsedd a Llys yr Eisteddfod

Mae Llys yr Eisteddfod wedi penderfynu diarddel Huw Edwards o’r Orsedd a Llys yr Eisteddfod.

"Yn dilyn pleidlais unfrydol yng nghyfarfod Llys yr Eisteddfod heddiw, mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi penderfynu gweithredu Adran 4 (a) (iv) o’r cyfansoddiad i derfynu aelodaeth Huw Edwards o’r Eisteddfod ac yn sgil hynny, bydd hefyd yn cael ei ddiarddel o Orsedd Cymru," meddai'r Eisteddfod.

Dywedodd Cofiadur yr Orsedd, Christine James, yn gynharach fod gyda nhw “broses teg a chytbwys” o wneud hynny sydd eisoes wedi cychwyn.

“Mewn materion fel hyn mae’r orsedd yn ddarostyngedig i lys yr eisteddfod,” meddai Christine James.

“Mae gan y llys broses deg a chytbwys sydd wedi cychwyn ac er tegwch i bawb a rhag cam arwain neb nid yw’n briodol i wneud sylw pellach ar hyn o bryd.

“A byddwn yn ddiolchgar pe bai chi ddim yn camddyfynnu nac yn camddehongli'r sylwadau hyn ac rwy’n eich herio chi i ddarlledu'r sylwadau olaf hyn.”

Cafodd Huw Edwards ei urddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, yn Nhregaron yn 2022.

Yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher diwethaf, cyfaddefodd iddo dderbyn delweddau anweddus o blant.

Roedd Huw Edwards wedi ei gyhuddo o gael chwe delwedd categori A, 12 delwedd categori B a 19 delwedd categori C ar WhatsApp ac fe blediodd yn euog i'r holl gyhuddiadau. 

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Westminster ar 16 Medi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.