Newyddion S4C

Wynne Evans i ddawnsio yn Strictly 2024

06/08/2024
Wynne Evans Strictly

Mae'r Cymro Wynne Evans yn un o'r sêr a fydd yn ymuno â rhaglen Strictly 2024. 

Y canwr a'r cyflwynydd yw'r enw diweddaraf i gael ei gyhoeddi gan y BBC yn ogystal â'r gantores ac actor Toyah Willcox a'r meddyg Dr Punam Krishan. 

Bydd Wynne Evans sy'n hanu o Gaerfyrddin ac yn byw yng Nghaerdydd yn ymddangos ar y sgrîn yn yr hydref wrth i'r gyfres ail ddechrau am yr ugeinfed tro. 

Yn fwyaf enwog am ei hysbysebion Go Compare, mae'n cyflwyno ar Radio Wales a daeth yn bencampwr Celebrity MasterChef yn 2023.

Mae wedi bod yn un o'r sêr a fu'n dysgu Cymraeg ar Cariad@Iaith ar S4C, ac mewn rhifyn arbennig o raglen Gwesty Aduniad ar S4C ar Noswyl Nadolig 2022, daeth Wynne i adnabod ei deulu yng Ngwlad Belg. 

Ar ôl y cyhoeddiad y bydd yn ymuno â Strictly, dywedodd Wynne Evans ei fod yn edrych mlaen at yr her ond yn "nerfus" wrth feddwl am y dawnsio bywiog.   

Wrth siarad ar Radio 2, dywedodd: “Rwy'n edrych ymaen at y dawnsio clasurol yn bennaf yn amlwg, gan mod i wedi bod yn ganwr opera am 20 mlynedd, ac fe wnaethon ni dipyn o ddawnsio clasurol mewn operâu." ”

Ychwanegodd: “Yr hyn rwy'n nerfus yn ei gylch ydy'r rhannau sydd angen tipyn o neidio." 

Mae'r gyfres ddawnsio boblogaidd ar y BBC wedi bod yn y penawdau newyddion yn ddiweddar, wedi honiadau fod rhai cystadleuwyr wedi eu trin yn llym. 

Mae'r Amanda Abbington wedi cwyno am y dansiwr Giovanni Pernice. Mae e'n gwadu'r honiadau ac mae dawnsiwr arall Graziano Di Prima hefyd wedi gadael y gyfres.  

Mae'r BBC yn cynnal ymchwiliad, ond dyw'r casgliadau ddim wedi eu cyhoeddi eto.  

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.