Heddlu'n apelio am wybodaeth am leoliad menyw o Gaerfyrddin wedi achos cyffuriau
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth am leoliad menyw o Sir Gaerfyrddin sy'n euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a B.
Cafodd Lynne Leyson o Gapel Dewi ger Caerfyrddin ei dyfarnu'n euog ym mis Mai 2023.
Doedd hi ddim yn bresennol yn Llys y Goron Abertawe ar gyfer ei gwrandawiad dedfrydu ar 21 Gorffennaf 2023.
Cafodd ei dedfrydu yn ei habsenoldeb i naw mlynedd o garchar ar 15 Medi 2023.
Roedd Leyson yn un o chwech o bobl a gafodd eu harestio yn dilyn gwarant yn Fferm Pibwr, Caerfyrddin, ym mis Hydref 2021, ar ôl i swyddogion ganfod 592g o gocên gwerth rhwng £47,750 a £60,000, 1.4kg o ganabis gwerth £15,615, a dros £17,000 o arian a dryll.
Fe gafwyd ei gŵr Stephen Leyson yn euog o fod â gwn yn ei feddiant, cynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a chynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth B a'i ddedfrydu i 11 mlynedd o garchar.
Cafwyd eu mab Samson yn euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a chyffuriau dosbarth B a'i ddedfrydu i chwe blynedd o garchar.
Roedd eu ffrind teulu, Andrew Jenkins, yn euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth B.
Plediodd Ritchie Coleman ac Emma Calver-Roberts yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B ar ôl ymchwiliad pellach.
Gwobr ariannol
Yn ôl yr heddlu, mae'r elusen Crimestoppers yn cynnig gwobr o hyd at £1,000 am wybodaeth sy’n arwain at arestio Lynne Leyson.