Gobaith ail-agor rhan o Bier Llandudno 'erbyn penwythnos nesaf'
Mae ‘na obaith y gallai rhan o Bier Llandudno ail-agor “erbyn penwythnos nesaf” wedi iddo gael ei ddifrodi yn ystod Storm Darragh.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol fe gyhoeddodd rheolwr y pier, Paul Williams, ei fod yn gobeithio y gallai’r rhan o’r safle hyd at gwt The Crystal Hut ail-agor yn ystod yr wythnos i ddod.
Bydd siopau ar hyd y pier yn parhau ar gau tan 1 Chwefror gan obeithio y bydd modd ail-agor “ar gyfer y tymor busnes nesaf.”
Dywedodd Mr Williams fod gwaith cynnal a chadw yn parhau ar hyn o bryd gan fod y tywydd garw diweddar wedi creu “nifer o heriau”.
“Rydym yn trio ein gorau i allu ail-agor y Pier yn llawn cyn gynted â phosib, ond yn ddiogel,” meddai Mr Williams.
“Ar ran y tîm cyfan, hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth barhaus, rydym yn ei werthfawrogi’n fawr.
“Rwy’n edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl yn ystod yr wythnosau nesaf.”
Gwaith cynnal a chadw
Mae disgwyl i waith adnewyddu gael ei chynnal ar y gwaith dur o dan ardal y caffi, bar ac arcêd gan mai dyma ble gafodd eu “difrodi’n sylweddol.”
Mae 10 i 12 rhan o’r strwythur sydd angen eu hadnewyddu.
Mae sgaffaldiau wedi eu codi y tu allan i doiledau’r dynion er mwyn ail-osod y to. Mae gwaith cynnal a chadw hefyd yn cael ei chynnal ar do’r bar ar y pier.
Ychwanegodd Mr Williams y bydd angen cynnal gwaith “sylweddol” ger y fynedfa ‘Happy Valley’ er mwyn gallu cael gwared ar un o’r cytiau sydd dal ar ei ochr.
Mae’r goleuadau ar hyd y pier, yn ogystal â nifer o feinciau a byrddau hefyd wedi eu difrodi’n sylweddol ac mae angen eu hadnewyddu neu eu hamnewid.
Roedd Storm Darragh wedi achosi difrod sylweddol ar hyd a lled Cymru ddechrau mis Rhagfyr y llynedd.
Cafodd porthladd Caergybi ei chau o achos difrod iddo gan olygu bod holl wasanaethau fferi wedi eu canslo cyn cyfnod y Nadolig.
Mae bellach disgwyl i borthladd Caergybi ddychwelyd i gyflenwi gwasanaethau arferol i deithwyr a nwyddau yr wythnos nesaf.
Lluniau: Pier Llandudno/Facebook