Annog pobl i 'gefnogi cymuned fach Gymraeg' drwy achub unig dafarn Penmachno
Mae grŵp yn Sir Conwy yn galw ar bobl leol i “fuddsoddi mewn rhywbeth ystyrlon” drwy brynu cyfranddaliadau cymunedol er mwyn achub unig dafarn Penmachno.
Fis Rhagfyr, fe agorodd cymdeithas gymunedol Cynnal Bro Machno gynnig cyfranddaliadau i brynu tafarn Yr Eagles, a'i rhedeg fel busnes sy'n eiddo i'r gymuned.
Dywedodd eu bod nhw wedi derbyn bron i £50,000 mewn addewidion ond eu bod nhw bellach yn galw ar bobl i drosi hynny’n fuddsoddiad gwirioneddol.
Daw hynny wrth i’r cynnig cyfranddaliadau agor yn ffurfiol gyda disgwyl iddynt gau ar 30 Ebrill 2026.
Mae’r gymuned wedi gosod targed o godi £150,000, a fydd hefyd yn cael ei chynorthwyo gan grantiau a benthyciadau i brynu ac adnewyddu’r dafarn.
Gyda pherchnogion presennol Yr Eagles angen gwerthu’r dafarn, maent yn wynebu bygythiad o gau yn y dyfodol agos, meddai Cynnal Bro Machno.
“Mae’n amlwg bod pobl eisiau gweld y dafarn hon yn aros yng nghalon y gymuned,” medd Ceri Morris, Ysgrifennydd Cynnal Bro Machno.
“Rŵan mae angen inni droi’r brwdfrydedd hwnnw’n fuddsoddiad a fydd yn gwneud perchnogaeth gymunedol yn realiti.”
Ychwanegodd ei bod yn annog pobl sydd eisiau "cefnogi cymuned fach Cymraeg" i warchod dyfodol y dafarn drwy gyfrannu.
'Buddion i'r dyfodol'
Dros gyfnod y Nadolig, daeth 17 o wirfoddolwyr at ei gilydd i gadw’r dafarn ar agor tra oedd perchnogion y dafarn i ffwrdd.
“Mae’r prosiect hwn yn ceisio cofleidio cymuned amrywiol o fuddiannau sy’n adlewyrchu materion cyfoes a chyfleoedd yn y dyfodol a fydd yn darparu buddion i bawb,” meddai Colin Pugh, Cyd-Gadeirydd Cynnal Bro Machno.
Mae Bro Machno yn gartref i tua 1,200 o bobl, gyda thafarn Yr Eagles/Tŷ Uchaf’ yn “rhan ganolog” o fywyd lleol.
Mae dosbarthiadau Cymraeg yn cael eu cynnal yno’n wythnosol ac mae hefyd yn llety i dwristiaid yn yr ardal.
Cafodd y pensaer lleol Rhodri Evans o Dobson Owen, Pwllheli ei gomisiynu er mwyn paratoi cynlluniau ar gyfer y dafarn.
Mae'r prosiect wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Mae hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan Fenter Iaith Conwy a Sefydliad Plunkett.