Tanau LA: Seren Hollywood yn 'colli ffrind' wrth i nifer y meirw gynyddu
Mae 11 o bobl bellach wedi marw wrth i danau gwyllt barhau i ledu drwy ardaloedd yn Los Angeles.
Mae mwy na 10,000 o adeiladau wedi'u dinistrio wrth i chwe thân losgi yn y ddinas yng Nghaliffornia a'r cyffiniau.
Y gred yw mai tân Palisades, sy’n lledu ar lan y môr rhwng ardaloedd Malibu a Santa Monica, ydy’r fwyaf dinistriol yn hanes LA.
Mae’r gwasanaeth tân bellach wedi llwyddo i reoli 8% o’r tân hwnnw, medden nhw, ond mae’n parhau i losgi ar hyd dros 21,500 erwau (tua 85km).
Mae nifer o sêr Hollywood, gan gynnwys Anthony Hopkins o Bort Talbot, ymhlith y rheiny sydd wedi colli eu tai yn y difrod.
Mae’r actores Jennifer Garner, sydd wedi serennu yn ffilmiau fel Pearl Harbour a 13 Going on 30, wedi dweud ei bod hi wedi “colli ffrind” i’r tanau.
Wrth siarad â MSNBC yn yr Unol Daleithiau, dywedodd: “Dwi wedi colli ffrind a fethodd i ddianc mewn pryd.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1877797196453564518
“Fedra’i ysgrifennu rhestr o 100 o ffrindiau sydd wedi colli eu cartrefi.
“Dwi bron yn teimlo’n euog yn cerdded trwy dŷ fy hun. Beth alla’i ‘neud?”
'Prinder dŵr'
Mae Dug a Duges Sussex wedi ymuno â’r ymgyrch i helpu pobl leol yn LA wedi iddyn nhw ymweld â chanolfan liniaru yn ardal Pasadena ddydd Gwener.
Cafodd Harry a Meghan eu gweld yn cofleidio pobl a’u cefnogi. Fe symudodd y pâr i ardal Montecito yng Nghaliffornia pedair blynedd yn ôl, sy’n tua awr a hanner i ffwrdd o’r Pacific Palisades.
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden wedi rhybuddio bod disgwyl i nifer y bobl sydd wedi marw cynyddu.
Daw wedi i lywodraethwr Califfornia galw am ymchwiliad annibynnol yn dilyn problemau ar lawr gwlad.
Dywedodd Gavin Newsom bod ‘na ddiffyg cyflenwadau dŵr er mwyn i’r gwasanaethau tân allu mynd i’r afael â’r tanau gwyllt.
Mae cyrffyw dros nos hefyd wedi ei roi ardaloedd Pacific Palisades ac Eaton er mwyn ceisio atal pobol rhag lladrata o eiddo.
Fe fydd rhaglen Newyddion S4C yn dod â'r diweddaraf yn fyw o Los Angeles am 19.40 nos Sadwrn ar S4C.