Newyddion S4C

Los Angeles: Syr Anthony Hopkins yn rhannu neges o gefnogaeth wedi iddo golli ei gartref

Los Angeles: Syr Anthony Hopkins yn rhannu neges o gefnogaeth wedi iddo golli ei gartref

Mae'r actor o Bort Talbot, Syr Anthony Hopkins, wedi rhannu neges o gefnogaeth ar gyfer y rhai sydd wedi'u heffeithio gan y tanau gwyllt yn Los Angeles.

Dywedodd Syr Anthony, 87, wrth ei ddilynwyr ar Instagram ddydd Gwener mai'r "unig beth rydyn ni'n ei gymryd gyda ni yw'r cariad rydyn ni'n ei roi".

Yn ôl adroddiadau, roedd seren The Silence of the Lambs ymhlith yr enwogion sydd wedi colli eu cartrefi yn ardal Pacific Palisades wedi i danau gwyllt achosi dinistr i rannau o Los Angeles yr wythnos hon.

Mae'r tanau gwyllt yng Nghaliffornia bellach wedi lladd 10 o bobl a dinistrio miloedd o gartrefi a busnesau.

Mewn datganiad, dywedodd Syr Anthony: "Wrth i ni gyd geisio dod i delerau â difrod y tanau, mae’n bwysig i ni gofio mai’r unig beth rydyn ni’n ei gymryd gyda ni yw’r cariad rydyn ni’n ei roi."

Y gred yw mai tân Palisades, sy’n ardal ar lan y môr rhwng ardaloedd Malibu a Santa Monica, ydy’r mwyaf dinistriol yn hanes Los Angeles.

Mae tai'r sêr Hollywood John Goodman, Billy Crystal, Anna Faris a Eugene Levy hefyd ymhlith y tai sydd wedi "diflannu".

Dywedodd Paris Hilton ei bod hi hefyd wedi colli ei thŷ yn Malibu. 

Y gred yw bod cartrefi’r actorion Tom Hanks, Reese Witherspoon, Michael Keaton, Ben Affleck a Matt Damon hefyd wedi cael eu heffeithio gan danau’r ardal.

Llun: Patrick Fallon / AFP

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.