Tanau LA: Profiadau rhai o'r Cymry sydd yno
Tanau LA: Profiadau rhai o'r Cymry sydd yno
“Mae fel warzone go iawn”
Wrth i’r tanau barhau i achosi anhrefn yn Los Angeles, ma’ rhaglen Newyddion S4C wedi bod yn clywed gan Gymry sy’n byw yno.
Mae Rhinallt Williams yn berchennog bar ac wedi gorfod cau’r busnes am y tro.
“Ma’r tanau yn dal i fynd. Mi gafodd tŷ un o fy ffrindiau ei losgi lawr.
"Lle ma’r bar gennon ni, o’dd bob dim i’r gogledd o hwnnw yn gorfod cael ei evacuatio.
"‘Dan ni ‘di cau am y penwythnos i gyd achos mae’r aer yn llwch i gyd a dydi’r dŵr ddim yn saff iawn i yfad. Felly ’dan ni wedi gwneud penderfyniad i gau y busnes.”
Er nad ydi ei gartref dan fygythiad ar hyn o bryd, mae Rhinallt a’i deulu wedi penderfynu gadael.
“Ma’i fel warzone go iawn tu allan yna. Dwi a’r teulu allan yn Palm Springs a ‘dan ni yn saff. Y bar sydd wedi cael ei effeithio fwyaf.“
'Mae popeth wedi mynd'
Yn ôl yr awdurodau, mae chwech o danau yn parhau i losgi a rhagor o bobol yn cael eu gorfodi i adael eu cartrefi.
Mae yna boeni am gyflenwadau dŵr hefyd er mwyn diffodd y fflamau a galwadau am ymchwiliad annibynnol.
Ddydd Gwener, aeth Lynwen Hughes-Boatman sy’n wreiddiol o Gaerffili, nôl i’w chartref am y tro cyntaf ers iddi orfod gadael.
Mae cymuned Altadena wedi ei chwalu. Er bod ei thŷ yn dal i sefyll, mae’r rhan fwyaf o’r adeiladau o gwmpas wedi eu dinistrio’n llwyr.
“Mae jesd mor drist. Mae popeth wedi mynd – lle fi’n siopa, lle a’th merch fi i’r ysgol, y post office – ma’ popeth wedi mynd. Fydd Altadena byth yr un peth. Byth.”
Dydi hi ddim yn siwr pryd fydd hi’n gallu byw yno eto.
“Yn edrych ar be sydd o gwmpas, ma’r power poles wedi llosgi so heb pŵer allwn ni ddim dod nôl. ’
"Sdim nwy a bydd y dŵr yn llychlyd. Fyddwn ni ddim yn gallu yfed dŵr o taps am amser maith.
"Ni gyd yn meddwl pedwar mis i chwe mis cyn allwn ni ddod nôl.”
Mewn dwy ardal, mae cyrffyw er mwyn ceisio atal pobl rhag dwyn o adeiladau gwag.
Yn ardal Burbank, mae Ceri Lucey sy’n wreiddiol o Gaernarfon yn poeni am y sefyllfa gyda’i gŵr yn rhedeg bar yn ardal Downtown.
“Y looting – ma’ hynna di bod yn broblem. Oedd y gŵr yn poeni am y bar oherwydd hynna.
"A neshi ddeud whether you’re there or not, dio’m yn mynd i stopio pobol rhag gwneud y petha ma so jesd plis cadwa i ffwrdd er mwyn cadw’n saff.
"Efo looters, ma’ pawb yn gwbod sut ma’ petha’n mynd a ma’n beryg bywyd i bobol fod allan.”
Fe fydd rhaglen Newyddion S4C yn darlledu’n fyw o Los Angeles nos Sadwrn am 19.40.