Elfyn Evans yn arwain yn Rali Sweden
Mae’r Cymro Elfyn Evans yn arwain Rali Sweden ar ddiwedd trydydd diwrnod y cystadlu.
Ar ddiwedd saith cymal y rali ddydd Sadwrn, roedd Evans 13.3 eiliad ar y blaen i Takamoto Katsuta o Japan.
Fe ddechreuodd y rali ddydd Iau a bydd yn dod i ben yn dilyn tri chymal arall ddydd Sul.
Roedd Evans yn yr ail safle ar ddiwedd saith o gymalau ddydd Gwener y tu ôl i Oliver Solberg o Sweden.
Ond Evans oedd y cyflymaf ar y cymal cyntaf ddydd Sadwrn i gipio’r flaenoriaeth.
Mae Evans yn ail ym Mhencampwriaeth y Byd ar hyn o bryd ar ôl iddo ddod yn ail ar Rali Monte Carlo fis diwethaf.
Daeth Evans yn yr ail safle ym Mhencampwriaeth Rali’r Byd am y pumed tro ym mis Tachwedd y llynedd.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/2022727894967910526
Llun: X/Elfyn Evans