Caernarfon: Cyfarfod i drafod troi adeilad yn unedau i bobl sy'n wynebu digartrefedd

Fflatiau Caernarfon

Fe fydd sesiwn agored yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon i drafod cynlluniau Cyngor Gwynedd i ddatblygu adeilad gwag yn y dref yn unedau ar gyfer pobl sy'n wynebu digartrefedd.

Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu datblygu safle hen swyddfeydd y Goron er mwyn ei droi'n 37 o unedau preswyl.

Bwriad y sesiwn agored yn Adeilad yr Institiwt fydd i "rannu gwybodaeth a chasglu adborth" am gynlluniau'r cyngor ar gyfer yr adeilad yn ardal Penrallt o'r dref.

Cafodd y penderfyniad i brynu'r adeilad ei wneud gan gabinet Cyngor Gwynedd ym mis Mawrth 2024. 

Mewn adroddiad i'r cabinet ar y pryd, dywedodd swyddogion y byddai "trosi adeiladau’r Goron, yn cynnig y potensial i ddarparu 46 o gartrefi, gan leihau’r ddibyniaeth ar lety argyfwng anaddas, a galluogi’r Cyngor i gartrefu trigolion mewn cartrefi safonol tra’n disgwyl am lety parhaol".

Ychwanegodd yr adroddiad: "Ers Ebrill 2023, mae 885 o bobl wedi cyflwyno yn ddigartref yn y sir ac mae bron i 250 o aelwydydd ar hyn o bryd yn byw mewn llety argyfwng anaddas, gydag opsiynau i symud ymlaen i lety parhaol yn gyfyngedig iawn oherwydd diffyg stoc addas o dai".

Y gred oedd y byddai'r gwaith llawn o ddatblygu'r safle yn costio rhwng £12 miliwn ac £14 miliwn.

Erbyn mis Mehefin y llynedd, roedd nifer yr unedau oedd i'w datblygu fel rhan o gynlluniau'r cyngor wedi gostwng o 46 i 37.

Mewn hysbyseb tendro am ymgynghorydd acwstig i weithio ar y datblygiad ar y pryd, dywedodd y cyngor mai'r bwriad oedd "adnewyddu cyn swyddfeydd i greu 37 uned preswyl hunangynhwysol a gofod swyddfa".

"Mae Cyngor Gwynedd wedi prynu hen Adeiladau’r Goron ym Mhenrallt, Caernarfon ac mae’n bwriadu trosi’r adeilad i ddarparu llety i’r rhai sy’n wynebu digartrefedd.," meddai'r hysbyseb.

"Bydd y prosiect yn cynnwys llety preswyl yn ogystal â swyddfeydd ac ardaloedd ategol ar gyfer staff cymorth yn ogystal â mannau awyr agored cymunedol."

Bydd y sesiwn agored i drafod cynlluniau Cyngor Gwynedd yn cael ei chynnal yn Adeilad yr Institiwt yng Nghaernarfon ar 23 Chwefror rhwng 16:00 a 19:00.

Llun: Google

 

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.