Heddlu'r Gogledd yn rhybuddio perchnogion cŵn ar drothwy'r tymor wyna

Ci yn edrych ar ddefaid

Rhybudd: Gallai'r lluniau yn yr erthygl hon beri gofid.

Ar drothwy’r tymor wyna, mae Heddlu’r Gogledd yn rhybuddio y dylai perchnogion cŵn fod yn gyfrifol wedi iddynt ymateb i ymosodiad gan gi ar ddefaid “yn barod” fis Chwefror. 

Dywedodd y Tîm Troseddau Cefn Gwlad eu bod nhw eisoes wedi ymateb i ddigwyddiad yn ymwneud ag ymosodiad o’r fath. 

Cafodd chwech o ddefaid eu lladd o ganlyniad, meddai’r adran.  

Mae perchennog y cŵn oedd yn gysylltiedig â’r achos yma wedi’i “ddal yn atebol", ychwanegodd. 

Image
Ymosodiad ar ddefaid

Mae’r llu bellach yn atgoffa pobl fod ymosodiadau gan gŵn ar ddefaid yn “ddinistriol, ac yn peri colled ariannol ac emosiynol i’r ffermwr".

“Mi all y fath olygfa hefyd fod yn ofidus i unrhyw un sy’n eu gweld nhw,” medde nhw. 

“Mi hoffem atgoffa perchnogion cŵn o’u cyfrifoldebau nhw i gadw cŵn ar dennyn pan maen nhw gerllaw da byw, ac i sicrhau bod eu gerddi nhw’n ddiogel er mwyn atal cŵn rhag dianc.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.