Dathlu 50 mlynedd o draddodiad 'anhygoel' rhwng clybiau rygbi yng Nghymru a Ffrainc
Wrth i dîm rygbi Cymru baratoi i herio Ffrainc ddydd Sul, bydd pentref yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dathlu 50 mlynedd o draddodiad “anhygoel” gyda’r Ffrancwyr.
Ers 1976, mae Clwb Rygbi Creunant a Chlwb Rygbi Alençon yn Normandi wedi meithrin perthynas arbennig.
Bron bob blwyddyn, mae criwiau o’r ddwy wlad wedi teithio cannoedd o filltiroedd er mwyn dod at ei gilydd – hynny gan amlaf ar gyfer gêm o rygbi.
Fe ddechreuodd y traddodiad drwy’r cyn-athro Ffrangeg o Greunant, Alan Thomas, a benderfynodd symud i’r wlad er mwyn dysgu yno.
Wedi iddo gael swydd fel athro Saesneg yn ysgol uwchradd Lycée Alain yn Alençon yn 1974, daeth o hyd i hysbyseb ar gyfer Clwb Rygbi Alençon yn y dref.
Fel yr unig Gymro ymhlith 14 o Ffrancwyr, fe ymunodd â’r tîm yn ddiweddarach gan ddechrau traddodiad sydd wedi datblygu “tu hwnt i’w freuddwydion".
Ar ôl dychwelyd i Gymru yn 1976, fe gafodd y gêm gyntaf rhwng Clwb Rygbi Creunant a Chlwb Rygbi Alençon ei chynnal ym mis Mawrth y flwyddyn honno.
Y Cymry ddaeth i'r brig yn y gêm hanesyddol yma, gan guro o 34-10 ar eu tir eu hunain.
'Dyled enfawr'
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Alan fod y degawdau diwethaf wedi bod yn “anhygoel – yn fwy nag y gallwn i erioed fod wedi ei ddychmygu".
“Mae’r berthynas wedi datblygu dros y blynyddoedd gan gyrraedd pwynt ble mae pobl wedi aros yng nghartrefi pobl eraill gymaint o weithiau, y maen nhw’n cael eu gwahodd i briodasau teuluol.
“Os ydy aelodau’r teulu’n priodi, fe fyddwn ni’n gwahodd pobl o Ffrainc neu byddai’r Ffrancwyr yn ein gwahodd ni.”
Mae'r berthynas agos hefyd wedi arwain at rannu enwau, gyda stryd ger Clwb Rygbi Creunant wedi ei henwi'n Heol D' Alençon (prif lun) a stryd debyg ger clwb rygbi Alençon wedi ei henwi'n Allee de Crynant.
Eleni, tro tua 50 o Ffrancwyr yw hi i ymweld â’u cyfeillion yng Nghymru.
Er na fyddent yn chwarae yn erbyn ei gilydd eleni yn sgil problemau gyda threfniadau yswiriant, mae’r chwaraewyr i gyd yn edrych ymlaen at ymgynnull yng Nghaerdydd ar gyfer y gêm rhwng Cymru a Ffrainc yn Stadiwm Principality ddydd Sul.
Dywedodd Alan, sydd yn gyn-athro Ffrangeg yn Ysgol Uwchradd Dŵr-Y-Felin yng Nghastell-nedd, bod y profiad hefyd wedi cyfrannu’n fawr at ei yrfa lwyddiannus.
“Mae gen i ddyled enfawr iddynt,” meddai.
“O’n i wedi bennu lan yn dysgu Ffrangeg yng Nghastell-nedd cyn cael fy mhenodi’n bennaeth adran yn Ysgol Uwchradd Cwrt Sart yn Llansawel, oedd yn wych.”
Mae’n awyddus i ddiolch i’w gyfeillion am yr holl brofiadau y mae’r timau wedi eu cael.
Atgofion melys
Mae creu atgofion wedi bod yn greiddiol i’w perthynas ar hyd y blynyddoedd, meddai Alan.
“1977 oedd y flwyddyn gyntaf i ni fynd draw [i Ffrainc], y flwyddyn wedi i Bonnie Tyler rhyddhau ei sengl ‘Lost in France.’
“Fe aethon ni i Baris ac fe gawson ni gyfnod arbennig yn gwylio Cymru yn wynebu Ffrainc yn yr hen Parc de France.”
Ond ymhlith yr holl gyffro a chwrw, fe aeth un o griw Creunant ar goll, medd Alan.
“Fe aethon ni i chwilio amdano fe, y gŵr ‘ma oedd yn un o ffrindiau dad, ond doeddwn ni methu dod o hyd iddo.
“Yn y diwedd roedd rhaid i ni wneud penderfyniad: roedd yn rhaid i ni fynd yn ôl i Alençon, a oedd 100 milltir i ffwrdd.”
Y diwrnod wedyn roedd yn rhaid i bawb deithio adref.
“Tra'r oeddem ni ar y llong, daeth neges gan long arall a oedd yn gadael Southampton i ddweud bod y gŵr bonheddig wedi ei ganfod ar y llong tu ôl i ni, ac a fyddai modd i ni ddisgwyl amdano yn Southampton.”
Ac fe gafwyd aduniad wedi achubiaeth annisgwyl ar ddiwedd y daith.
“Roedd wedi bod yn sefyll ar ochr y ffordd gyda’i sgarff goch pan ddaeth bws ar hyd y ffordd.
“Roedd y gŵr yma yn wreiddiol o Frynmawr – a dyma fws o Frynmawr yn ei achub, yn llawn hen ffrindiau ysgol!”
Bydd Cymru yn herio Ffrainc ar gyfer gemau'r Chwe Gwlad yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd am 15.10 ddydd Sul.