'Doniol a charedig': Teyrnged teulu i ferch 17 oed a fu farw wedi gwrthdrawiad yng Nghwmbrân

Demi Edmunds

Mae teulu merch 17 oed “doniol a charedig” a fu farw wedi gwrthdrawiad yng Nghwmbrân yn Sir Torfaen wedi rhoi teyrnged iddi. 

Bu farw Demi Edmunds o Gil-y-coed yn y fan a’r lle wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A4042 am 12:25 ddydd Iau.

Roedd thri char a cherddwr, sef Demi, yn rhan o'r gwrthdrawiad yn ôl Heddlu Gwent.

Mae ei theulu bellach wedi rhoi teyrnged iddi gan ei disgrifio fel unigolyn oedd “wedi ei charu gan bawb".

Dywedodd ei brawd, Jake: “Demi oedd y chwaer orau y byddwn i erioed wedi gallu dymuno cael. Roedd hi’n ddoniol, caredig ac yn ofalgar.” 

“Roedd y ddau ohonom yn agos iawn, roedd hi fel ffrind gorau i mi ac roeddwn i’n gallu ymddiried ynddi gydag unrhyw beth a phob peth.

“Rwy’n gobeithio ei bod hi yn y nefoedd mewn lle gwell.” 

Dywedodd ei theulu ehangach: “Roedd Demi yn ferch, wyres, chwaer, cyfnither a nith annwyl. 

“Roedd Demi wrth ei bodd â’i ffrindiau, ac roedd pawb yn ei charu.”

Mae’r teulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol Heddlu Gwent ar hyn o bryd ac wedi gofyn am breifatrwydd er mwyn galaru.

Mae'r llu yn parhau i gynnal ymchwiliadau ac wedi gofyn unrhyw un sydd â delweddau CCTV neu dashcam all fod o gymorth i gysylltu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 2600046163.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.