Newyddion S4C

Dyn o Gaerdydd wedi'i arestio ar ôl adroddiadau o wn yn cael ei saethu

04/08/2024
Llun o gar heddlu.

Mae dyn o Gaerdydd wedi ei arestio yn dilyn digwyddiad honedig ble gafodd gwn ei saethu yn y brifddinas.

Cafodd swyddogion Heddlu De Cymru eu galw i Drelái am 23.20 nos Iau 1 Awst ar ôl adroddiadau fod gwn wedi ei danio.

Mae dyn 34 oed o Gaerau wedi ei arestio dan amheuaeth o fod ag arf tanio yn ei feddiant gyda’r bwriad o achosi ofn trais.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.