'Mor gyffrous': Elin Fflur i gyflwyno sioe radio newydd ar Radio Wales
Mae'r gantores a'r cyflwynydd teledu Elin Fflur wedi dweud ei bod hi "mor gyffrous" wrth iddi gyhoeddi y bydd yn cyflwyno sioe radio newydd.
Ar ei rhaglen newydd nos Wener ar BBC Radio Wales rhwng 19:00 a 22:00 fe fydd hi'n chwarae caneuon o'r 70'au, 80'au a 90'au yn ogystal â chaneuon Cymraeg.
Bydd y sioe yn cael ei darlledu yn fyw o Fangor ac mae Elin Fflur yn edrych ymlaen at groesawu'r penwythnos trwy chwarae amrywiaeth o ganeuon.
"Dwi mor gyffrous i ymuno â thîm Radio Wales," meddai.
"Mae cerddoriaeth a phobl yn ddau beth dwi'n angerddol iawn drostyn nhw a dwi'n meddwl bydd y sioe hon yn rhoi'r gorau o'r ddau i mi.
"Dwi'n edrych ymlaen at groesawu'r penwythnos gyda cherddoriaeth hapus a good vibes."
Bydd Elin Fflur yn wyneb cyfarwydd i nifer o wylwyr S4C.
Mae hi'n gyflwynydd ar Heno, Cân i Gymru a Sgwrs Dan y Lloer.
Dywedodd Carolyn Hitt, Pennaeth BBC Radio Wales: “Rydym yn falch iawn o groesawu Elin i BBC Radio Wales.
"Fel un o gantorion-gyfansoddwyr mwyaf dawnus Cymru, bydd yn rhannu ei gwybodaeth gerddorol a’i hangerdd gyda’n cynulleidfa.
"Ac fel cyflwynydd medrus mae hi'n dod â chynhesrwydd a charisma i'r sioe. Bydd Elin yn gwmni gwych nos Wener i’n gwrandawyr.”
Llun: BBC Cymru Wales