Newyddion S4C

Ymosodiad Southport: Rhagor o brotestiadau wedi eu cynllunio

02/08/2024
Southport

Mae mwy na dwsin o brotestiadau wedi eu cynllunio dros y dyddiau nesaf wedi ymosodiad Southport, gyda Syr Keir Starmer yn cyhoeddi ymateb "cenedlaethol" newydd sy'n cysylltu lluoedd yr heddlu ar draws y wlad. 

Mae o leiaf 15 o brotestiadau wedi cael eu hysbysebu ar-lein, gyda rhai yn galw am gyfranogwyr i ddod â baneri cenedlaethol a nifer yn cynnwys brawddegau fel "digon yw digon", "achubwch ein plant" neu "stopiwch y cychod".

Mae'r protestiadau ar y gweill ar gyfer ardaloedd gan gynnwys Southport, Leeds a Bryste. 

Cyhuddiad

Daw hyn wedi i ddyn ifanc 17 oed, Axel Rudakubana, gael ei gyhuddo o lofruddio tair merch yn dilyn ymosodiad ar ddosbarth dawnsio yn Southport ddydd Llun. 

Cafodd Alice Dasilva Aguiar, naw oed, Bebe King, chwech oed, ac Elsie Dot Stancombe, saith oed, eu trywanu i farwolaeth yn yr ymosodiad ar Stryd Hart yn Southport, Glannau Mersi.

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o 10 cyhuddiad o geisio llofruddio, a bod â llafn yn ei feddiant.

Cafodd ei gadw mewn canolfan ddalfa ieuenctid wedi iddo ymddangos yn Llys y Goron Lerpwl ddydd Iau.

Gwrthdaro

Cafodd 53 o swyddogion heddlu eu hanafu yn dilyn gwrthdaro gydag eithafwyr asgell-dde nos Fawrth - oriau'n unig ar ôl i wylnos gael ei chynnal i gofio'r tair merch a fu farw yn yr ymosodiad.

Nos Fercher, cafodd mwy na 100 o brotestwyr eu harestio yn Whitehall, gyda gwrthdaro hefyd yn digwydd yn Hartlepool. 

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Iau, dywedodd Syr Keir Starmer: "Mae'r asgell dde eithafol yn dangos pwy ydyn nhw - mae'n rhaid i ni ddangos pwy ydym ni wrth ymateb i hyn."

Fe fydd yr "ymateb cenedlaethol" yn cynnwys rhannu gwybodaeth ymysg lluoedd, defnyddio technoleg adnabod wynebau yn ehangach a gorchmynion ymddygiad troseddol er mwyn cyfyngu ar symudiad y rhai dan sylw yn ôl Mr Starmer. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.