Prifysgolion yn 'adolygu' anrhydeddau cyflwynydd newyddion wedi achos llys
Mae Prifysgol Bangor wedi dweud eu bod nhw’n adolygu'r Gymrodoriaeth Er Anrhydedd rhoddwyd i Huw Edwards.
Daw wedi i Brifysgol Caerdydd ddweud eu bod nhw hefyd yn “adolygu” anrhydeddau Huw Edwards ar ôl iddo ymddangos yn Llys Ynadon San Steffan heddiw.
Cyfaddefodd cyn-gyflwynydd y BBC dri chyhuddiad o wneud delweddau anweddus o blant.
Yn 2003, gwnaed Edwards yn gymrawd anrhydeddus o Brifysgol Cymru ac yn 2007 daeth yn Athro Newyddiaduraeth er Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cafodd ei anrhydeddu gan Brifysgol Bangor yn 2014.
Bnawn dydd Mercher dywedodd Prifysgol Bangor: “Yn sgil y digwyddiadau diweddaraf, bydd y Brifysgol yn adolygu'r Gymrodoriaeth Er Anrhydedd rhoddwyd i Huw Edwards.”
Mae Gorsedd Cymru hefyd wedi dweud eu bod nhw’n mynd i ystyried diarddel Huw Edwards wrth gyfarfod yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd yr wythnos nesaf.
Dywedodd Christine James, Cofiadur yr Orsedd, wrth y BBC nad oedd gan y sefydliad "drefn neu beirianwaith benodol i ddiarddel aelodau”.
Roedd Huw Edwards wedi ei gyhuddo o gael chwe delwedd categori A, 12 delwedd categori B a 19 delwedd categori C ar WhatsApp ac fe blediodd yn euog i'r cyhuddiadau.
Fe wnaeth y darlledwr 62 oed adael y BBC ym mis Ebrill.
Yn gwisgo siwt dywyll, tei glas a sbectol haul, siaradodd Mr Edwards, 62 oed, i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i ble ar ddechrau'r gwrandawiad ddydd Mercher.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Westminster ar 16 Medi.