Aelod Seneddol yn ymuno yn yr ymgyrch yn erbyn gorsaf nwy ger Caernarfon
Mae Aelod Seneddol wedi ymuno yn yr ymgyrch yn erbyn cynllun i godi gorsaf nwy a pheiriant chwalu concrid ger Caernarfon.
Mae nifer o drigolion lleol eisoes wedi mynegi pryderon am y cynllun gan gwmni Jones Brothers ar safle hen waith brics Seiont.
Nawr mae Liz Saville Roberts, yr Aelod Seneddol lleol, wedi ysgrifennu at Gyngor Gwynedd hefyd i wrthwynebu'r datblygiad.
Mae Ms Saville Roberts yn dweud ei bod hi'n pryderu am lygredd posib i'r afon Seiont gerllaw, a nifer y lorïau trymion fyddai'n teithio nôl a blaen o'r safle.
Yn ei llythyr mae hi'n dweud: "Mae'r safle wedi ei leoli mewn ardal sy'n cynnwys stadau tai poblog, ysgol, ysbyty, tir hamdden, a choetir naturiol a nid yw'n addas ar gyfer datblygiad diwydiannol o'r raddfa sy'n cael ei gynnig."
Yn ogystal, mae hi'n dweud nad ydy'r datblygiad yn gweddu tref Caernarfon a'i statws fel Safle Treftadaeth y Byd.
Mae mudiad Caernarfon Lân eisoes wedi cychwyn deiseb yn erbyn y datblygiad, sydd wedi ei arwyddo gan dros 1,300 o bobl.
Oherwydd maint y datblygiad, y disgwyl ydy mai Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar y cynllun.