Newyddion S4C

Gogledd Cymru yn 'colli allan' os na fydd rheilffordd y gogledd yn cael ei thrydaneiddio

31/07/2024

Gogledd Cymru yn 'colli allan' os na fydd rheilffordd y gogledd yn cael ei thrydaneiddio

Prif reilffordd Arfordir y Gogledd ac roedd ei thrydaneiddio yn rhan o gynlluniau trafnidiaeth y cyn-lywodraeth Geidwadol. Ond mae'n ymddangos na fydd hynny'n digwydd yn fuan.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens yn amheus os oedd arian ar ei gyfer. Ac yn dilyn cyhoeddiad y Canghellor, ddoe a'r honiad bod twll du ariannol gwerth £22 biliwn eleni yng nghoffrau'r Deyrnas Unedig, mae'r Llywodraeth yn adolygu bob cynllun isadeiledd.

"Mae'n siomedig achos mae Cymru unwaith eto'n colli allan. Y Llywodraeth newydd yn gaddo newid mawr ond ni ar ein colled.

"Oedd cynnig y Ceidwadwyr ddim wedi stacio i fyny'n ariannol. Mae'r ffaith bod nhw'n cau edrych ar yr opsiynau achos mae'r cysylltiadau'n ofnadwy o bwysig i Ogledd Cymru."

Y ddadl yw byddai trenau trydan yn rhatach, glanach a mwy dibynadwy. Ac er mai cost swyddogol y cynllun fyddai £1 biliwn mae 'na nifer yn credu y byddai'n costio tipyn mwy erbyn hyn.

"Dyw hi ddim yn syndod bod y Llywodraeth newydd yn cyfeirio at hwn fel pres sy' ddim yn bodoli. Ar yr un pryd, 'swn i'n gobeithio gweld rhywfaint o bres i Ogledd Cymru i wella'r rheilffyrdd.

"Cymaint i wneud, cyn lleied wedi'i wario dros y degawd diwethaf."

I ba raddau y dylai trydaneiddio fod yn flaenoriaeth?

"Taswn i'n wneud rhestr o'r deg blaenoriaeth mwyaf i Ogledd Cymru ar y rheilffyrdd fysai ar y rhestr ond ddim ar y top achos mae cymaint angen neud. "Er enghraifft, gwneud y siwrnai'n gynt a cael mwy o drenau hefyd.

"Mae 'na drafferthion ac mae angen buddsoddiad ar linell yr arfordir. Mae cyfyngiad capasiti rhwng Caer a Wrecsam sy'n dal Wrecsam yn ôl."

Be, felly, oedd y farn yng ngorsaf Bangor?

"Mae lot yn colli allan efo gwaith a efo mynd ar wyliau. Mae 'na dipyn yma heddiw'n disgwyl am y tren yn mynd i Lundain."

"Mae'n warthus bod yr electrification 'di cael ei ganslo. Ni ddim yn gallu dibynnu ar y trens yn yr ardal."

Mae trenau trydan yn rhedeg rhwng Caerdydd a Twnnel Hafren yn barod yn ogystal â rhai ar reilffyrdd y Cymoedd ond does 'na ddim byd y tu hwnt i hynny.

A dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pryd nac ymhle y bydd 'na ragor o drydaneiddio yn digwydd yng Nghymru.

Mae'n ymddangos felly bod Gogledd Cymru yn ffarwelio a'r cynllun ac na fydd trenau trydan ar y trac yn y dyfodol agos o leia.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.