Ffrwydrad yn Beirut wrth i fyddin Israel hawlio cyfrifoldeb
30/07/2024
Mae oleiaf un ffrwydrad wedi taro prifddinas Libanus, Beirut nos Fawrth.
Yn ôl byddin Israel, nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.
Maen nhw'n dweud iddyn nhw dargedu un o arweinwyr Hezbollah gan ychwanegu mai fe oedd yn gyfrifol am y gyflafan yn Golan Heights ddydd Sadwrn, sydd wedi ei feddiannu gan Israel.
Cafodd 12 o blant a phobl ifanc eu lladd.
Mae Hezbollah yn gwadu mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad hwnnw.
Digwyddodd yr ymosodiad yn un o faestrefi de Beirut nos Fawrth.
Dyw hi ddim yn glir a oes unrhywun wedi ei anafu.