Dysgwr y Flwyddyn: 'Pwysig rhannu fy nhaith gyda'r teulu'
Dysgwr y Flwyddyn: 'Pwysig rhannu fy nhaith gyda'r teulu'
"Mae'n bwysig iawn i rannu fy nhaith dysgu gyda fy nheulu ac mae'n gyffrous i jyst hybu a dysgu ein gilydd geirie newydd."
Mae Joshua Morgan o Gaerdydd yn un o'r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.
Mae Josh yn dysgu Cymraeg ers blwyddyn a hanner. Symudodd i Loegr o Gymru pan oedd yn saith oed, cyn dychwelyd i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Sylweddolodd y gallai ddysgu Cymraeg pan aeth ati i astudio iaith isiXhosa pan fu’n byw yn Ne Affrica am ddwy flynedd.
"Mewn gwirionedd, ces i fy ysbrydoli i ddysgu Cymraeg pan o'n i'n byw yn Ne Affrica achos dyna ble nes i sylweddoli am y tro cyntaf fod e'n bosibl o gwbl i fi ddysgu iaith arall ac hefyd bod e'n bwysig iawn i ddysgu'r iaith ac mae'n jyst agor y diwylliant," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ces i llawer o brofiadau yno na fyddwn i wedi profi o gwbl heb yr iaith a mwy a mwy dwi'n gweld bod yr un peth yng Nghymru."
'Yn fwy hwyl ac yn haws'
Josh ydi sylfaenydd Sketchy Welsh, sef cyfres o ddarluniau yn dogfennu ei brofiad o ddysgu Cymraeg.
Mae Josh hefyd wedi gweithio gydag Amgueddfa Cymru ar ganllaw ar sut i drafod celf yn y Gymraeg. Yn ogystal mae wedi ymddangos ar raglen Prynhawn Da ar S4C i gynnig cyngor ar sut i ddechrau arlunio.
Ychwanegodd Josh: "Dwi wedi bod yn dysgu Cymraeg am jyst dros un flwyddyn a hanner nawr ond un flwyddyn yn ôl, dwi 'di dechre prosiect o'r enw Sketchy Welsh sef casgliad o frawddegau Cymraeg gyda fy narluniau er mwyn helpu fi a phobl eraill i ddysgu Cymraeg a gwneud e mwy hwyl ac yn haws.
"O'n i'n synnu go iawn i weld pan o'n i yn rhannu y llyfrau - mae gymaint o bobl yn rili frwdfrydig am beth dwi'n gwneud."
Mae Josh yn athro yn Ysgol Arbennig Greenfield, Merthyr Tudful, ac wedi helpu’i ddosbarth i greu llyfr dysgu Cymraeg o’r enw ‘Lles'. Fel dosbarth maent yn creu fideo wythnosol er mwyn dysgu Cymraeg i weddill yr ysgol.
Mae wedi defnyddio amryw o ffyrdd ar ei daith o ddysgu'r iaith.
"Dwi wedi dechre gyda Say Something in Welsh, nes i gwneud e yn y car, ar y taith i gweithio, hefyd, llawer o gerddoriaeth. Dwi 'di dysgu llawer o gerddoriaeth Gwilym Bowen Rhys a cwpl o bobl eraill, Cerys Havana, Mari Matthias, a mae'n ffordd dda i ychwanegu lot o eirfa penodol," meddai.
"Yn amlwg, jyst trwy gwneud llawer o ddarluniau, mae'n well i fi i ddysgu pethau trwy'r cyfrwng gweledol na jyst ysgrifennu pethau mewn rhestr a dwi'n ymwybodol o'r ffaith bod pethau rhyfedd, pethau doniol neu hardd jyst lot mwy cofiadwy na pethau heb eu hystyr."
'Braint go iawn'
Mynd o nerth i nerth mae ei fenter Sketchy Welsh.
"Dwi'n meddwl nawr dwi wedi cael jyst dros 10,000 o bobl yn defnyddio Sketchy Welsh a mae'n fraint go iawn a dwi'n rili gyffrous am y ffaith hyn," meddai.
"Mae gen i awydd hefyd i jyst greu llawer o lyfrau rili da, pethau sydd yn gallu helpu fi a helpu pobl eraill i fwynhau y proses dysgu."
Mae Josh yn awyddus i ddysgu a siarad Cymraeg gyda'i blant hefyd.
"Mae'n prospect gyffrous hefyd i cael Cymraeg fod yn rhan go iawn o'n bywyd - mae wedi bod yn bleser mawr," meddai.
"Mae'n teimlad rili dda, yn amlwg, mae'n fraint go iawn i fod ar y rhestr."