Cyhoeddi gwarant i arestio Katie Price
Mae barnwr wedi cyhoeddi gwarant i arestio'r cyn fodel a’r awdur Katie Price.
Cafodd y warant ei gyhoeddi wedi iddi fethu â mynychu gwrandawiad yn ymwneud â methdaliadau.
Dywedodd y Barnwr Catherine Burton fod Ms Price wedi derbyn “rhybuddion clir iawn” bod yn rhaid iddi fod yn bresennol yn y gwrandawiad ddydd Mawrth.
Roedd Ms Price i fod i wynebu cwestiynau am ei threfniadau ariannol yn y llys methdaliad arbenigol yn Llundain.
Dywedodd barnwr mewn gwrandawiad blaenorol ei bod mewn perygl o gael ei harestio os nad oedd hi’n bresennol.
Wrth gyhoeddi’r warant i’w harestio, dywedodd y Barnwr Burton fod Ms Price wedi “methu â bod yn bresennol yn y gwrandawiad heddiw” a heb gynnig unrhyw esboniad am ei habsenoldeb.
Dywedodd: “Yn fy marn i mae’n rhaid i’r llys gyhoeddi gwarant i arestio Ms Price.
“Does ganddi hi ddim esgus go iawn dros fethu â dod i’r gwrandawiad heddiw.”
Ychwanegodd: “Mae’n amherthnasol pam nad yw hi’n bresennol.”