Newyddion S4C

Gohirio triathlon y dynion o achos llygredd yn afon Seine

30/07/2024
Seine.png

Mae cystadleuaeth triathlon unigol y dynion yn y Gemau Olympaidd wedi’i ohirio ar ôl i brofion ddangos nad yw ansawdd dŵr yn afon Seine yn cyrraedd y safon ofynnol.

Roedd y ras i fod i ddechrau am 07:00 BST (08:00 amser lleol) a bydd nawr yn cael ei chynnal ddydd Mercher am 09:45 (10:45 amser lleol), ar ôl i draithlon y merched orffen.

“Fe ddatgelodd profion a gynhaliwyd yn y Seine ddydd Mawrth nad oedd ansawdd y dŵr yn cyrraedd y safon i ganiatáu i’r digwyddiad gael ei gynnal,” meddai Triathlon y Byd.

"Er gwaethaf y gwelliant yn lefelau ansawdd y dŵr, mae rhai rhannau o'r cwrs nofio yn dal i fod uwchlaw'r lefelau derbyniol."

Daw hyn ar ôl i sesiynau hyfforddi nofio orfod cael eu canslo ddydd Sul a dydd Llun oherwydd ansawdd y dŵr. Y glaw trwm yn ystod y penwythnos sydd wedi effeithio ar ansawdd y dŵr

Mae cystadlaethau eraill i fod i gael eu cynnal yn yr afon Seine yn ystod y gemau gan gynnwys y ras gyfnewid gymysg triathlon a'r nofio marathon.

Mae profion yn cael eu cynnal bob dydd ar ansawdd y dŵr yn Afon Seine.

Dywedodd y trefnwyr fod tua £1.2bn wedi ei wario i wneud y Seine yn ddiogel i'r athletwyr allu nofio yn yr afon. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.