Pêl-droed: Y gobaith yn parhau i'r Seintiau Newydd gyrraedd Ewrop
Bydd y Seintiau Newydd yn herio pencampwyr Hwngari, Ferencvaros yn ail gymal ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr nos Fawrth.
Collodd y Seintiau 5-0 yn Budapest wythnos ddiwethaf ond mae dal gobaith iddyn nhw gyrraedd Ewrop os nad ydynt yn gallu cyrraedd rownd nesaf Cynghrair y Pencampwyr.
Pe bai'r Seintiau yn methu ag ennill ar gae Neuadd y Parc nos Fawrth, byddant yn chwarae yn nhrydedd rownd ragbrofol Cyngres Europa yn erbyn naill ai APOEL o ynys Cyprus neu Petrocub o Moldofa.
Bydd y rownd honno yn cael ei chwarae dros ddau gymal ac os bydd y Seintiau yn ennill dros y ddwy gêm yna byddan nhw'n cyrraedd rownd y grwpiau.
Nid oes tîm o Gymru erioed wedi cyrraedd rownd y grwpiau mewn cystadleuaeth Ewropeaidd.
Ers 1996 mae’r Seintiau Newydd wedi chwarae 81 o gemau yn Ewrop gan ennill 18 o rheiny (22%), ac mewn 41 rownd Ewropeaidd mae’r clwb wedi camu ymlaen ar 10 achlysur (24%).
Daeth eu rhediad gorau yn nhymor 2010/11 – er ennill dim ond un rownd y tymor hwnnw (yn erbyn Bohemians yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr), cyn colli yn erbyn Anderlecht, ac fe gafodd y Seintiau chwarae mewn gêm ail gyfle i gyrraedd Cynghrair Europa.
Llun: Y Seintiau Newydd