Cyhuddo Huw Edwards o dri achos o wneud delweddau anweddus o blant

29/07/2024

Cyhuddo Huw Edwards o dri achos o wneud delweddau anweddus o blant

Mae cyn-gyflwynydd y BBC, Huw Edwards, 62, wedi’i gyhuddo o dri achos o wneud delweddau anweddus o blant, meddai Heddlu Llundain.

Yn ôl dogfen y llys mae Huw Edwards wedi ei gyhuddo o gael chwe delwedd categori A, 12 delwedd categori B a 19 delwedd categori C ar WhatsApp.

Fe wnaeth y darlledwr 62 oed adael y BBC ym mis Ebrill.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Mae Huw Edwards, 62, o Southwark, Llundain wedi’i gyhuddo o dri achos o wneud delweddau anweddus o blant yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu’r Met.

“Credir fod y troseddau honedig wedi digwydd rhwng Rhagfyr 2020 ac Ebrill 2022 ac maen nhw'n ymwneud â delweddau a rannwyd ar sgwrs WhatsApp.

“Cafodd Edwards ei arestio ar 8 Tachwedd 2023. Cafodd ei gyhuddo ddydd Mercher, 26 Mehefin ar ôl i'r cyhuddiadau gael eu hawdurdodi gan Wasanaeth Erlyn y Goron.

“Mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher, 31 Gorffennaf.

“Mae’r cyfryngau a’r cyhoedd wedi eu hatgoffa fod hyn yn achos gweithredol. Ni ddylai unrhyw beth gael ei gyhoeddi, gan gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol, a allai niweidio achos llys yn y dyfodol.”

Darlledwr

Roedd Mr Edwards wedi gweithio i'r BBC am 40 o flynyddoedd. 

Fe gyflwynodd raglen Jiwbilî Diemwnt y Frenhines Elizabeth yn 2012, y Jiwbilî Platinwm yn 2022 yn ogystal â phriodas Tywysog a Thywysoges Cymru yn 2011 a phriodas Dug a Duges Sussex yn 2018.

Fe roedd hefyd wedi cyhoeddi marwolaeth y Frenhines Elizabeth II yn 2022, ac fe gyflwynodd ddarllediad y gorfforaeth o goroni'r Brenin Charles y llynedd. 

Roedd Mr Edwards ymhlith y bobl sy'n ennill y cyflogau uchaf o fewn y BBC, gyda'i gyflog yn ei roi yn drydydd ar y rhestr ar gyfer 2023/24.

Yn ôl adroddiad blynyddol y BBC eleni, roedd Mr Edwards yn cael ei dalu rhwng £475,000 a £479,999 yn y flwyddyn 2023/24 a hynny am 160 diwrnod o gyflwyno rhaglenni newyddion arbennig BBC One, rhaglenni'r etholiad a rhaglenni teledu eraill.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.