
Adroddiadau fod plant wedi eu trywanu ar Lannau Mersi
Mae adroddiadau bod nifer o blant ifanc wedi eu hanafu wrth i'r gwasanaethau brys ymateb i "ddigwyddiad o bwys mawr" yn Southport ar Lannau Mersi.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod swyddogion arfog wedi arestio dyn 17 oed o bentref Banks ger Southport ar ôl i "nifer o bobl" gael anafiadau yn ymwneud â chyllell.
Mae'r llanc yn dal i fod yn ddalfa, ac yn ôl yr heddlu, dyw'r digwyddiad ddim yn cael ei drin fel achos o derfysgaeth
Mae un cynghorydd lleol wedi dweud ei fod yn pryderu y gallai plentyn fod wedi marw.
Cafodd y gwasaethau brys eu galw i Hart Street, stryd sydd â thai yn Southport am 11.48am fore Llun.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Orllewin Lloegr bod parafeddygon wedi trin wyth claf sydd ag anafiadau ar ôl cael eu trywanu.
Mae’r dioddefwyr wedi cael eu cludo i Ysbyty Plant Alder Hey, Ysbyty Athrofaol Aintree ac Ysbyty Southport a Formby, meddai'r gwasanaeth mewn datganiad.
Dywedodd un llygaid-dyst nad oedd eisiau cael ei enwi ei fod wedi gweld dynes yn sgrechian: “Mae fy merch wedi cael ei thrywanu."
“Roedd yn fam gyda’i merch 10 oed wedi cael ei thrywanu," meddai.
“Fe wnes i helpu i’w chael hi’n ôl i fyny i le roedd ceir yr heddlu a’r ambiwlansys.
“Doedd hi ddim yn edrych yn wych ond roeddwn i’n canolbwyntio ar ei chael hi yn ôl i fyny’r stryd i gael cymorth."

'Erchyll'
Yn ôl Bare Varathan, 35, sy'n berchennog siop ar Hart Street, cafodd ei alw ar frys gan aelod o staff toc cyn hanner dydd.
Dywedodd: “Mi welais saith i ddeg plentyn tu allan y feithrinfa. Roedden nhw wedi eu hanafu ac yn gwaedu.
"Roedden nhw yng nghanol y ffordd yn rhedeg o'r feithrinfa
“Roedden nhw i gyd tua deg oed. Roedd gan un ohonyn nhw anafiadau difrifol".
Dywedodd Colin Parry, perchennog modurdy gerllaw, iddo alw'r heddlu i gyfeiriad ar Hart Street ger stiwdios o'r enw The Hart Space.
Un o'r digwyddiadau yn y ganolfan adeg yr ymosodiad oedd dosbarth yoga ar thema'r gantores Taylor Swift ar gyfer plant rhwng chwech ac 11 oed.
Dywedod Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer bod y digwyddiad yn “erchyll a chwbwl frawychus”.
Ychwanegodd: “Hoffem ddiolch i'r heddlu a'r gwasanaethau brys am eu hymateb cyflym.
“Rwy'n cael fy niweddaru wrth i'r sefyllfa ddatblygu.”
Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Yvette Cooper wedi dweud ei bod hi’n “bryderus iawn” am y digwyddiad, a'u bod yn meddwl am deuloedd ac anwyliaid y rhai sydd wedi eu hanafu.
“Rwyf wedi siarad â Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Glannau Mersi i gyfleu cefnogaeth lawn i’r heddlu a diolch i’r gwasanaethau brys am eu hymateb.”