Ymchwiliad i fwlio yn S4C wedi costio £564,000
Mae S4C wedi cadarnhau fod ymchwiliad i honiadau o fwlio a cham-ymddwyn o fewn y sianel wedi costio cyfanswm o £564,000.
Fe gafodd y ffigyrau diweddaraf eu cyhoeddi fel rhan o adroddiad blynyddol y sianel fore Llun.
Ond er gwaethaf "blwyddyn anodd dros ben i S4C," meddai'r darlledwr, mae ffigyrau gwylio S4C ar-alw wedi parhau i dyfu ac ar eu huchaf erioed.
Ym mis Mai 2023 fe gafodd cwmni cyfreithiol o Gaerdydd, Capital Law, eu galw i gynnal ymarfer i ganfod ffeithiau am yr amgylchedd gwaith a’r awyrgylch yn S4C wedi i "bryderon difrifol" gael eu codi gan aelodau o'r undeb BECTU.
Cynhaliodd Capital Law gyfres o gyfweliadau gyda staff S4C, cyn-aelodau staff, a chyflenwyr yn y sector cynhyrchu, fel rhan o'u hymchwiliad, ac ym mis Rhagfyr 2023, fe gyhoeddodd Awdurdod y sianel yr fersiwn ddiwygedig o'r adroddiad.
Mae'r adroddiad blynyddol hefyd yn cadarnhau fod Awdurdod S4C wedi defnyddio cronfeydd wrth gefn y sianel i dalu am gost yr ymarfer canfod ffeithiau a’r holl wariant cysylltiedig.
Dywed yr adroddiad blynyddol: "Roedd hyn er mwyn sicrhau nad oedd y gwariant ychwanegol yn effeithio ar wariant cynhyrchu cynnwys a chyflawni blaenoriaethau strategol S4C."
Ar ôl derbyn ac ystyried adroddiad Capital Law, fe benderfynodd Awdurdod S4C i ddiswyddo’r Prif Weithredwr ar y pryd, Sian Doyle ar 24 Tachwedd 2023.
Yn dilyn y penderfyniad i ddiswyddo Ms Doyle, fe gafodd Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi S4C, Mr Geraint Evans a’r Prif Swyddog Gweithredu, Elin Morris eu penodi i rôl y Prif Weithredwr S4C ar y cyd dros dro, ac erbyn hyn mae Sioned William wedi ei phenodi yn Brif Weithredwr dros dro y sianel.
Mae'r ffigyrau diweddaraf hefyd yn dangos fod Awdurdod S4C wedi talu ffioedd am gyfrifoldebau golygyddol annibynnol i Cenwyn Edwards.
'Edrych ymlaen'
Mae’r adroddiad yn awgrymu hefyd bod cynnydd wedi bod yn oriau gwylio ar-alw S4C sydd ar eu huchaf erioed.
Mae’n nodi cynnydd o 31% o oriau gwylio ar-alw ers y flwyddyn gynt – y ffigwr gorau yn hanes y darlledwr.
Mae oriau gwylio S4C ar lwyfannau digidol S4C Clic neu ar iPlayer wedi cynyddu o bron draean mewn blwyddyn, meddai’r darlledwr.
Mae'r gwasanaeth hefyd yn nodi twf o 53% yn nifer yr oriau gwylio ar YouTube, sy’n greiddiol i’w nod o dyfu a chynnal y gynulleidfa iau.
Tra bod yr adroddiad yn rhybuddio fod y cwymp mewn gwylio llinol yn effeithio pob darlledwr ac yn heriol i S4C fel pob sianel arall, mae cyrhaeddiad blynyddol S4C ar deledu yng Nghymru wedi codi 5% i 1,713,000 o wylwyr.
Yn ogystal, bu cynnydd o 9% yn nifer o Gymry Cymraeg sy’n gwylio o wythnos i wythnos yn 2023-24 - y ffigwr uchaf ers chwe mlynedd.
Meddai Guto Bebb, Cadeirydd Bwrdd Unedol Dros Dro S4C: “Mae’r ffigurau yma yn coroni blwyddyn o waith uchelgeisiol S4C i wella ein cyrhaeddiad digidol.
“Nid un sianel bellach yw S4C. Fel darlledwr mae S4C nawr yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ar S4C Clic, BBC iPlayer, YouTube a’r holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol sy’n hynod o bwysig er mwyn sicrhau cynulleidfa’r dyfodol.”
Ychwanegodd Sioned Wiliam, Prif Weithredwr Dros Dro S4C: “Gyda diolch mawr i’r staff a’n partneriaid yn y sector gynhyrchu ry'm ni’n arbennig o falch cyhoeddi yr holl lwyddiannau a welwch yn yr Adroddiad yma.
"Does dim dwywaith y bu 2023-24 yn flwyddyn anodd dros ben i S4C ond mae gennym gynllun gweithredu beiddgar eisoes ar waith ac yn dwyn ffrwyth.
“Braf gweld bod y gwerthfawrogiad o’r sianel a’i chynnwys yn parhau’n gryf gyda’n gwylwyr. Mae’r farn gyffredinol am S4C wedi gwella eleni eto, am y drydedd flwyddyn yn olynol, ar draws siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd - gyda mwy nag erioed yn credu ein bod yn llwyddo i adlewyrchu Cymru gyfan, yn ei holl amrywiaeth.
"Gallwn edrych ymlaen nawr yn hyderus i barhau i ddarparu’r cynnwys gorau i’n holl gynulleidfaoedd – sut bynnag y maen nhw’n dewis ein gwylio.”