Y cyn-ddyfarnwr Gladiators John Anderson wedi marw yn 92 oed
Mae John Anderson, oedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel dyfarnwr yng nghyfres Gladiators wedi marw yn 92 oed.
Ymddangosodd yr hyfforddwr chwaraeon o'r Alban yng nghyfres wreiddiol y sioe, a gafodd ei chynnal rhwng 1992 a 2000 cyn dychwelyd yn 2008.
Roedd yn fwyaf enwog am ddweud y frawddeg: "Contender, ready! Gladiator, ready!"
Fe wnaeth hefyd hyfforddi mwy na 100 o athletwyr Olympaidd, gan gynnwys David Moorcroft oedd yn arfer dal record byd am y 5,000m.
Mewn datganiad, dywedodd rhaglen Gladiators: "Rydym wedi ein tristáu o glywed fod ein dyfarnwr hoffus, John Anderson, wedi mawr yn 92 oed.
"Rydym yn anfon ein cydymdeimladau at ei deulu a'i ffrindiau. Bydd John yn cael ei gofio am byth fel y llais eiconig a ddywedodd "Contender, ready! Gladiator, ready!"