Newyddion S4C

Enillydd lwcus o Brydain wedi cipio gwobr o £24m ar yr EuroMillions

27/07/2024
Loteri

Mae perchennog tocyn loteri o Brydain wedi ennill jacpot yr EuroMillions o £24 miliwn nos Wener meddai’r Loteri Genedlaethol.

Rhifau buddugol yr EuroMillions oedd 04, 19, 23, 35, 37 a rhifau buddugol Lucky Star EuroMillions oedd 04 a 08.

Dywedodd Andy Carter o'r Loteri Genedlaethol: “Am noson wych i chwaraewyr EuroMillions y DU, gan fod un deiliad tocyn wedi ennill y jacpot o £24M heno sy’n newid bywydau!

“Mae hynny’n ei gwneud hi’n ddwy fuddugoliaeth jacpot EuroMillions o Brydain hyd yn hyn y mis hwn, ar ôl i berchenog tocyn lwcus arall ennill y jacpot o £33m yn y gêm ar 5 Gorffennaf.”

Ni enillodd neb y brif wobr yn y raffl Thunderball.

Y rhifau Thunderball buddugol oedd 02, 03, 15, 22, 25 a’r prif rif Thunderball unigol oedd 07.

Y gred yw bod gan jacpot ddydd Mawrth wobr o £14 miliwn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.